Cwest Pontcysyllte: Cofnodi marwolaeth drwy anffawd
- Cyhoeddwyd
Mae cwest yn Rhuthun wedi cofnodi dyfarniad o farwolaeth drwy anffawd yn achos dyn ifanc a syrthiodd i'w farwolaeth o draphont.
Bu farw Kristopher McDowell, 18 oed o Gefn Mawr ger Wrecsam, ar ôl syrthio 120 troedfedd o draphont ddŵr Pontcysyllte ym mis Mai 2016.
Clywodd y cwest ddydd Mawrth fod Mr McDowell gyda'i ffrindiau pan ddaeth un o'r rheiliau yn rhydd wrth iddo ei ddal gyda'i law.
Dywedodd y Crwner John Gittins ei fod yn bwriadu llunio adroddiad ynghylch dau bryder sydd ganddo am ddiogelwch y safle - maint y llefydd gwag rhwng y rheiliau, a'r dull sy'n cael ei ddefnyddio i fesur eu cryfder.
Mynnodd fod arbenigwyr wedi awgrymu bod y safle'n ddiogel ar gyfer defnydd arferol, ond ei fod yn teimlo dyletswydd i lunio adroddiad.
Clywodd y cwest ddydd Mercher nad oedd polyn a ddaeth yn rhydd yn nwylo dyn ifanc a syrthiodd i'w farwolaeth wedi ei nodi fel un oedd angen ei atgyweirio.
Dywedodd uwch beiriannydd Glandŵr Cymru, Sally Boddy, nad oes ganddynt unrhyw gofnod o broblemau gyda'r polyn penodol yma.
Yn ôl Ms Boddy, "os yw polyn yn rhydd, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu ei fod yn beryglus", er y gallai hynny anesmwytho'r cyhoedd.
"Fy nghasgliad i yw nad oedd y pwysau a roddwyd ar y polyn yn gyffredin... rydw i'n ffyddiog bod ein proses ymchwilio yn fanwl, ac os oedd problem gyda'r polyn yno, yna bydden ni wedi ei ddatrys," meddai.
Traphont yn 'ddiogel'
Mae arbenigwyr wedi awgrymu y dylid gosod rhwyd wifrog ar y draphont er mwyn gwella mesurau diogelwch.
Ychwanegodd Ms Boddy: "Mae'r syniadau hyn wedi derbyn ystyriaeth lawn, ond gydag arwyddion a swyddogion yn bresennol ar amseroedd prysur, rydyn ni wedi dod i'r casgliad bod y draphont ym Mhontcysyllte yn ddiogel.
"'Dwi ddim yn meddwl y gallwn ni baratoi ar gyfer pob defnydd anarferol o'r adeilad."
Yn siarad ar ôl y cwest, dywedodd teulu Kris mewn datganiad: "Pe bai'r rheiliau ar y draphont wedi bod yn ddiogel ni fyddai'r trychineb yma wedi digwydd a byddai'n mab gyda ni heddiw.
"Ry'n ni'n croesawu'r penderfyniad i gynnal a chadw'r draphont ddŵr fel nad yw hyn yn digwydd i fab neu ferch unrhyw un arall."
Mae gan Glandŵr Cymru 56 diwrnod i ymateb i'r adroddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019