Arolwg yn trafod beth mae'n golygu i fod yn Gymry
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n ystyried eich hun yn Gymry neu'n Brydeinwyr?
I ambell un, mae'n siŵr ei fod yn gwestiwn digon hawdd ond i nifer, dydy'r ateb ddim mor syml.
Fe wnaeth bron i hanner y rhai wnaeth ymateb i arolwg blynyddol Dydd Gŵyl Dewi BBC Cymru ddweud eu bod yn Gymry yn unig neu'n fwy o Gymry na Phrydeinwyr.
Fel rhan o gyfres Changing Faces mae BBC Cymru wedi bod yn siarad â phobl ynglŷn â hunaniaeth genedlaethol a'r hyn sy'n dylanwadu ar ein hunaniaeth.
'Elfen drom o Brydeindod'
Mae'r atebion gafodd eu rhoi yn awgrymu bod sawl math o "Gymreictod", a bod diffinio "hunaniaeth" yn gymhleth.
"Mae yna gyfrinach ynglŷn â'r Cymry, bod yna elfen drom o Brydeindod," meddai'r awdur Jon Gower.
"Mae Caerdydd, yn hanesyddol, yn ail ar y rhestr o ran llefydd ym Mhrydain sy'n dathlu pethau Brenhinol.
"Os chi eisiau cael parti ar y stryd - dyma'r lle, bron. Felly mae hynny'n awgrymu rhyw fath o Brydeindod.
"Ac wrth gwrs mi oedd canlyniad y refferendwm Brexit, hwnna eto'n dangos ein bod ni'n debyg iawn i bethau sy'n digwydd ym Mhrydain... ac yn debyg iawn i bethau sy'n digwydd yn Lloegr."
Fe gafodd y cerddor Eädyth, 21, ei geni yn Rhydychen cyn symud i Geredigion fel plentyn.
Mae hi bellach yn cynhyrchu cerddoriaeth electronig o'i chartref yn Ynysowen ym Merthyr Tudful.
"Mae 'di bod yn anodd ffeindio'r geiriau i ddisgrifio fy hunan yng Nghymru," meddai.
"O'dd e'n anodd tyfu lan yn rhywle lle o'n i ddim yn gwybod yn iawn beth oedd y drefn, beth oedd pobl yn wneud, sut oedd pobl yn siarad.
"Dwi'n meddwl bod Cymru wedi mabwysiadu fi mewn ffordd. Ond 'dwi bendant yn gweld fy hun fel Cymraes."
'Falch o ble dwi'n dod'
O'r 1,001 o bobl gafodd eu holi ar gyfer yr arolwg gan BBC Cymru, roedd 676 o Gymru.
Dywedodd 21% eu bod yn teimlo'n Gymry yn hytrach na Phrydeinwyr. Roedd 27% yn teimlo'n fwy o Gymry na Phrydeinwyr a 44% yn teimlo fel Cymry a Phrydeinwyr.
Roedd y 7% arall yn teimlo yn fwy Prydeinig neu'n Brydeinig yn unig.
Ymhlith myfyrwyr Coleg Caerdydd a'r Fro, mae'r farn yn adlewyrchu'r ystadegau.
Mae rhai fel Shanice Williams o Gasnewydd yn dweud ei bod yn teimlo'n fwy fel Prydeiniwr.
"Dydw i ddim yn swnio'n Gymraeg, dydw i ddim yn siarad Cymraeg a dydw i ddim wir yn gwybod unrhyw beth am Gymru," meddai.
Ond mae Cameron Ware, sy'n fyfyriwr lefel A yn teimlo fel Cymro.
"Mi ydw i'n sicr yn teimlo fel Cymro. Rydw i o'r wlad yma, dwi'n falch o ble dwi'n dod. Fel arfer, chi'n cael eich labelu fel Prydeiniwr," meddai.
"Dydy hynny ddim yn fy mhoeni'n ofnadwy, ond pan mae pobl yn dweud 'Prydeinig', dwi'n meddwl am 'Saesnig'."
Pwysigrwydd addysg
Yn ôl Mr Gower mae gan y byd addysg rôl fawr i'w chwarae yn hunaniaeth y genhedlaeth nesaf o Gymry.
"Os nad ydy'n system addysg yn dweud wrthym ni o leiaf elfennau pwysig o'n hanes, os nad yr holl hanes, ac am ein beirdd - boed yn ysgrifennu yn Gymraeg neu'n Saesneg tu hwnt i Dylan Thomas - wedyn dydyn ni ddim am gael y dyfnder hynny o Gymreictod.
"Mae'n un peth cael 'Caru Cymru' fel tatŵ ar eich braich.
"Ond mae rhaid iddo hefyd fod yn ddwfn yn yr ymennydd yn ogystal â'r galon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2019