Profion diogelwch traphont lle bu farw dyn yn 'annigonol'
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi galw ar reolwyr Traphont Ddŵr Pontcysyllte i wneud gwelliannau diogelwch yn dilyn marwolaeth dyn 18 oed yn 2016.
Bu farw Kristopher McDowell, 18 o Gefn Mawr, ger Wrecsam, ar ôl i far haearn ddod yn rhydd wrth iddo gerdded ar hyd y draphont.
Fe wnaeth cwest gofnodi rheithfarn o farwolaeth drwy anffawd ddydd Mercher.
Mae'r crwner nawr wedi dweud bod mesurau profi'r rheiliau ar y draphont yn "annigonol", yn ei Adroddiad Rhwystro Marwolaethau.
Bwlch 195mm
Ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru, y corff sy'n rheoli 2,000 o filltiroedd o afonydd a chamlesi, sy'n gyfrifol am y draphont ddŵr ger Llangollen.
Yn ei adroddiad mae John Gittins, Crwner Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanolog), yn cyfeirio at y drefn yr arolygwyr o sicrhau fod rheiliau'r draphont yn ddigon cadarn.
Dywed y gallai'r profion presennol arwain at "anghysonderau".
Mae'r adroddiad hefyd yn mynegi pryderon nad oes digon o arwyddion yn rhybuddio ymwelwyr o'r peryglon, a bod plant ac unigolion yn gallu mynd rhwng y rheiliau haearn ar ochr y draphont.
Ychwanegodd Mr Gittins bod hynny "yn enwedig pe bai nhw fel Mr McDowell, yn fwriadol trio croesi i ochr allanol y draphont".
Mae bwlch 195mm rhwng rheiliau Pontcysyllte, ond erbyn hyn mae safonau diogelwch yn galw am fwlch o 100mm.
Mae gan Glandŵr Cymru 56 diwrnod i ymateb i'r adroddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019