Gwaith atgyweirio gwerth £1m yn eglwys San Pedr, Pwllheli

  • Cyhoeddwyd
Eglwys San Pedr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r eglwys wedi ei lleoli yng nghanol tref Pwllheli

Mae eglwys yng Ngwynedd yn paratoi i gynnal gwaith atgyweirio a moderneiddio gwerth £1m er mwyn rhoi bywyd newydd i'r adeilad.

Eglwys San Pedr ym Mhwllheli, a adeiladwyd yn 1886, fydd yn buddio, a hynny er gwaethaf cyhoeddiad y llynedd bod chwe eglwys yn Eifionydd yn cau.

Bydd hanner yr arian yn cael ei wario ar atgyweirio to'r adeilad tra bod y gweddill yn cael ei wario ar ail-wneud ac addasu'r tu mewn.

Y gobaith yw codi arian dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae nifer o grwpiau lleol, fel y banc bwyd, grŵp rhiant a phlentyn a'r farchnad wledig yn defnyddio'r adeilad yn gyson.

Bydd y meinciau pren traddodiadol yn cael eu tynnu i greu ardal amlbwrpas, gyda seddi symudol yn cael eu defnyddio i addoli ac ar gyfer cyfarfodydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau'r eglwys yn edrych ymlaen at y gwaith atgyweirio

Ym mis Ionawr, derbyniodd yr eglwys grair sanctaidd, rhan o orchudd mae rhai yn dweud gafodd ei wisgo gan y Forwyn Fair, gan ddynes oedd yn mynychu'r eglwys.

Mae'r eglwys hefyd wedi comisiynu cerflun pren o'r Forwyn Fair gan y cerflunydd Simon O'Rourke, a fydd yn cael ei ddangos mewn gorymdaith drwy'r dref i'r eglwys yn ystod yr haf.

Dywedodd ysgrifennydd yr esgobaeth, Siôn Rhys Evans, bod eglwys San Pedr yn un "brysur iawn o ran ei chyfraniad i'r gymuned".

"Mae hi hefyd yn eglwys nodedig iawn o ran ei hymdeimlad hi gyda gwreiddiau Catholig y ffydd yma ym Mhen Llŷn... mae 'na adeilad 'ma sy wedi blino ond mae yna gynllun cry' yma ac mae yma genhadaeth gref."

Gweddnewid yr adeilad

Dywedodd y Tad Huw Bryant, sy'n gwasanaethu ym mhlwyf Bro Enlli: "Fydd tua hanner yr arian yna yn mynd ar repairs i 'neud yn siŵr bod y to yn saff ac ailbeintio'r west end, ond bydd y gweddill yn trawsnewid y tu fewn.

"Byddwn yn cael toiledau tu fewn, fyddwn ni'n cael cegin, fyddwn ni'n ail-wneud cysegr y Forwyn Fair, cael gwared â'r pews a chael seti neis ac underfloor heating fel bod yr adeilad yn gyfforddus ac yn gallu cael ei ddefnyddio."

Dywedodd Selwyn Thomas, un o weithwyr banc bwyd yr eglwys, ei fod yn "edrych ymlaen yn fawr iawn" at weld y gwaith yn cael ei wneud a bod galw am foderneiddio adnoddau'r adeilad.

Ychwanegodd Mem Kloss, sy'n aelod o'r eglwys: "Fyswn i'n deud celwydd 'san i'n deutha chi fod gen i ddim hiraeth. Mae gen i hiraeth, ond fedrwn ni ddim symud ymlaen heb ollwng hiraeth.

"A dwi yn edrych yn ymlaen yn ofnadwy i ddod a'r eglwys San Pedr yn ôl fel oedd yr eglwys pan o'n i'n tyfu fyny."