Cymru... 'coloni' Lloegr?
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfres arbennig gan BBC Cymru mae'r Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe yn trafod hunaniaeth Gymreig, a'r syniad bod Cymru'n wladfa neu drefedigaeth ('colony') i Loegr.
Bydd dwy raglen o'r enw Wales: England's Colony? yn cael eu darlledu ar BBC Two Wales am 21.00 ar nos Lun, Mawrth 11 a Mawrth 18.
Mae'r gyfres yn ystyried sefyllfa bresennol Cymru ac yn gobeithio ennyn trafodaeth am beth yw dyfodol y genedl. Rhoddodd Martin Johnes ragflas o'r rhaglenni i Cymru Fyw.
Beth yw Cymreictod?
"Mae'n gymhleth," meddai Martin Johnes, "ond dwi'n meddwl mai beth sy'n bwysig ynglŷn â Chymreictod ydi ei fod yn golygu pethe gwahanol i wahanol bobl.
"Mae Cymreictod yn sbectrwm. I rai mae'n bopeth, ond i eraill yn ddim byd o gwbl. Ond be sy'n newid drwy hanes yw ble mae'r pwyslais.
"I rai mae'n dod mas yn y pêl-droed neu Ddydd Gŵyl Dewi ac ma' fe'n eithaf emosiynol, ond ddim yn ganolog i'r ffordd maen nhw'n gweld y byd mewn ffordd gwleidyddol. I bobl eraill mae jest yn rywle lle maen nhw'n dod - fel dod o Lerpwl neu Llundain, 'lle' yw e, dim hunaniaeth.
"Beth sydd wedi digwydd ers y 1960au ydy bod mwy o bobl wedi mynd i ochr y sbectrwm lle mae'n rhywbeth gwleidyddol.
"Mae yn fwy gwir wrth drafod pobl sy'n siarad Cymraeg - dwi'n gwybod ei fod ddim yn rhywbeth ffasiynol i ddweud, ond dwi'n credu bod linc rhwng rhyw fath o Gymreictod gwleidyddol a siarad Cymraeg.
"Dyw e ddim yn rhywbeth sydd wastad yn wir, mae yna rai pobl sydd yn siarad Cymraeg ac yn gweld eu hunain fel rhan o Brydain, dros Brexit, ac efallai yn erbyn mewnfudo i'r wlad. Dyw e ddim yn rhywbeth clir, ond ar y cyfan mae pobl sy'n siarad Cymraeg yn gweld Cymru fel rhywbeth gwleidyddol."
Ydy Cymru yn 'goloni'?
Mae Martin Johnes hefyd wedi ysgrifennu llyfr o'r un enw â'r gyfres 'Wales: England's Colony?' a dywed fod marc cwestiwn yn y teitl am fod yr ateb yn newid dros amser.
"Yn y canol oesoedd roedd military conquest yng Nghymru, roedd cyfreithau apartheid yma, doedd dim hawl i'r Cymry fyw yn y trefi na chario arfau - apartheid oedd e," meddai.
"Mae'n anodd disgrifio Cymru cyn y deddfau uno fel unrhyw beth ond coloni.
"Ond yn yr oes fodern mae Cymru yn ddemocratiaeth, ac mae pobl wedi dewis bod yn rhan o Brydain, ac mae lot ohonyn nhw yn eithaf balch o fod yn rhan o Brydain.
"Yn y 19eg Ganrif roedd Cymru ar ei hennill o fod yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig a'r cyfleoedd economaidd wnaeth hynny gynnig.
"Yn yr 20fed ganrif roedd Cymru yn ddemocratiaeth lawn, gyda'r bleidlais ar gael i bob oedolyn - a doedd dim i awgrymu bod dim ond lleiafrif o'r boblogaeth eisiau torri'n rhydd o'r Deyrnas Unedig.
"O ystyried hawliau democrataidd Cymru, a'r dewisiadau y gwnaeth pobl wrth bleidleisio, mae'n anodd disgrifio'r Gymru fodern fel coloni.
"Roedd gan Gymru'r rhyddid nad oedd gan lefydd fel Iwerddon ac India ddim.
"Dydi o ddim y term iawn, ac yn bwysicach na dim, mae'n cymryd ein sylw i ffwrdd o'r rhyddid a'r dewisiadau sydd ganddom ni.
"Mae'n creu'r syniad yma ein bod yn sownd, a heb bŵer, a'n bod yn gallu beio rhywun arall am ein problemau.
"Fel cenedl mae angen i ni gymryd cyfrifoldeb dros ein sefyllfa ein hunain. Os ydyn ni eisiau bod yn annibynnol mae'r opsiwn yna i ni.
"Mae meddwl am ein hunain fel coloni jest yn ein dal yn ôl, achos da ni'n anghofio am y pŵer a'r dewisiadau sydd ar gael i ni."
Y cysylltiad â Lloegr
"Does dim economi Cymreig mewn gwirionedd," meddai Martin Johnes.
"Mae busnes yng Nghymru, yn amlwg, ond mae ein strwythurau i gyd yn rhan o rywbeth mwy.
"Ry'n ni'n gweld pa mor anodd yw hi nawr gyda Brexit i ddatod undeb sydd yn 40 mlynedd oed (yr Undeb Ewropeaidd).
"Mae'r undeb rhwng Cymru a Lloegr yn mynd nôl i 1536, ac mae economi'r ddwy wlad mor glwm, dwi ddim yn meddwl bod 'byd busnes' yng Nghymru i ddweud gwir. Mae busnes yng Nghymru yn amlwg, ond mae ein strwythurau i gyd yn rhan o rywbeth mwy."
Mae cymhariaethau yn aml yn cael eu gwneud rhwng Cymru a'r Alban, ond yn ôl Martin Johnes mae sefyllfa'r ddwy wlad yn wahanol iawn: "Mewn ffordd daeth Cymru yn rhan o Loegr, lle daeth Yr Alban a Lloegr at ei gilydd i ffurfio undeb. Mae'r strwythurau cyfreithiol, gweinyddol ac addysg yno'n hollol wahanol i ni," meddai.
Gwersi Brexit
"Mae lot ohonon ni'n dychmygu beth yw Cymru, ac ry'n ni'n dychmygu bod ni'n wlad wahanol â hunaniaeth gwahanol i Loegr - ni ishe credu hynny.
"Ond beth mae Brexit yn dangos i ni yw bod y ffordd ni'n gweld y byd a'r ffordd ni'n meddwl am bwy ydyn ni, mewn gwirionedd yn debyg iawn i Loegr i'r rhan fwyaf o bobl. Mae Brexit wedi bod fel wakeup call i bobl, ac wedi creu'r syniad bod Cymru mewn perygl - ond dwi'n credu bod hynny wastad wedi bod yn wir.
"Os edrychwn ni ar hanes Cymru beth sy'n sefyll mas, er bod o'n cliché yw geiriau Dafydd Iwan - 'Ry'n ni yma o hyd'. Mae hunaniaeth Cymru yn resiliant iawn, ac mae wedi parhau ym Mhrydain a dydi bod yn rhan o Brydain ddim yn fygythiad i Gymru.
"Os awn ni nôl i'r canol oesoedd, roedden ni'n cael ein gormesu. Ond ers y deddfau uno, does dim lot o ddiddordeb gan Loegr yng Nghymru. Does dim ymgyrch o ormesu wedi bod, a does dim unrhyw reswm pam fod aros yn rhan o Brydain wedi Brexit yn mynd i ladd Cymru - ry'n ni wedi bod yn rhan o Brydain ers canrifoedd."
Undeb 'Cymru a Lloegr'
Gyda trafodaethau Brexit Llywodraeth y DG yn dal heb eu datrys, beth allai'r dyfodol fod?
"Os fydd Alban annibynnol yn ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd a bod dim cytundeb rhwng yr UE a gweddill Prydain, byddai rhaid cael ffin galed rhwng Lloegr a'r Alban," meddai Martin Johnes.
"Os byddai Prydain yn gadael yr UE gyda 'Brexit meddal' a chytundeb, fe fyddai'n lot haws cael Alban annibynnol.
"Byddai'r un peth yn wir am Gymru os bydd Prydain yn gadael yr UE heb gytundeb - bydd lot o ddicter a bydd yr economi yn ansefydlog, a bydd hwnna'n creu sefyllfa lle fydd mwy o sôn am annibyniaeth.
"Ond byddai hefyd yn creu sefyllfa lle mae'n anoddach mewn gwirionedd i fod yn annibynnol.
"Sut fyddai ffin galed rhwng Cymru a Lloegr yn edrych? Yn Llanymynech er enghraifft mae'r ffin yn mynd drwy ganol pentre'!
"Yr holl broblemau sydd yn wynebu Brexit ar y funud yw'r un problemau fydd yn wynebu unrhyw ymgyrch am annibyniaeth i Gymru.
"Mae'r egwyddor yn swnio'n grêt, ond y manylion ymarferol yw e... ac mae rhaid meddwl trwyddyn nhw cyn cael unrhyw fath o refferendwm.
"Mae'n anodd edrych mewn i'r dyfodol pan 'da ni ddim yn gwybod sut bydd Brexit ei hun yn edrych, ond mae rhaid trafod y manylion neu does dim gobaith.
"Ond os fydd yr Alban yn gadael y Deyrnas Unedig, a Gogledd Iwerddon yn ymuno â'r Weriniaeth, wrth gwrs bydd lot mwy o bobl yn siarad am annibyniaeth, a bydd pobl yn dweud 'os mae e digon da i'r Alban, mae e digon da i ni.'"
Hefyd o ddiddordeb: