Galw am wahardd meinciau sy'n 'elyniaethus' i'r digartref

  • Cyhoeddwyd
Dyn digartrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni ddylai cynghorau ganiatáu meinciau â phigau sy'n cael eu defnyddio i atal pobl ddigartref rhag cysgu mewn mannau cyhoeddus, yn ôl dwy elusen.

Mae'r elusen The Wallich wedi dweud bod nodweddion o'r fath, sy'n cael eu galw'n bensaernïaeth elyniaethus (hostile architecture) yn gwneud bywyd yn anoddach i bobl ddigartref ac yn "eu gwthio i'r cyrion".

Cafodd deiseb yn eu herbyn ei harwyddo gan 120 o bobl, a chafodd ei thrafod gan un o bwyllgorau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod unrhyw awgrym eu bod yn prynu meinciau'n fwriadol er mwyn atal pobl rhag gorwedd yn "hurt bost".

Mae modd i landlordiaid preifat godi ffensys o hyd at fetr o uchder a gosod pigynnau heb ganiatâd cynllunio - daw'r nodweddion hynny dan ystyriaeth fel pensaernïaeth elyniaethus.

Ceisio 'cuddio' digartrefedd

Mae'r grŵp sydd wedi dechrau'r ddeiseb, People Over Profit, wedi dweud bod yr arfer yn "ymgais i guddio'r digartref".

Dywedodd The Wallich eu bod yn "pryderu am nifer yr achosion o bensaernïaeth elyniaethus mewn trefi a'u heffaith ar bobl sy'n ddigartref".

"Rydym yn anghytuno gydag unrhyw isadeiledd sy'n gwneud bywyd yn anodd i bobl sydd eisoes yn fregus."

"Os ydy'r bwriad yn un dilys, mae bariau ar feinciau er enghraifft yn cael eu defnyddio i helpu pobl i godi ac eistedd, yna mae angen i gynllunwyr adnabod effeithiau'r saernïaeth ar bobl sy'n ddigartref a'u cynnwys yn eu hasesiadau o'r effaith."

Disgrifiad o’r llun,

Mae breichiau ar feinciau yn amharu ar fywyd pobl ddigartref ac yn "eu gwthio i'r cyrion"

Ond mae cynghorau lleol wedi gwadu bod nodweddion o'r fath yn cael eu defnyddio i atal pobl ddigartref rhag cysgu allan.

Dywedodd Lynda Thomas, o Gyngor Caerdydd: "Mae'r awgrym bod y cyngor yn prynu meinciau gyda nodweddion i stopio pobl ddigartref rhag eu defnyddio fel gwlâu yn hurt bost."

"Be sy'n bwysig yn hyn i gyd yw symud pobl ddigartref o'r strydoedd, nid penderfynu a yw hi'n well i rywun gysgu ar fainc na chysgu ar lawr."

Yn ôl Cyngor Abertawe: "Mae'n gwbl anghywir i awgrymu bod y cyngor wedi cyflwyno pensaernïaeth 'elyniaethus' yn Abertawe.

"Mae unrhyw un sy'n ymweld â chanol y ddinas yn gwybod bod gennym nifer o feinciau a seddi gwahanol sydd, rhyngddynt, yn ceisio darparu cysur i bob un o'n trigolion ac ymwelwyr.

"Er enghraifft, mae eitemau hŷn yn cynnwys breichiau sy'n ddefnyddiol i bobl sydd angen help i godi o'u heistedd.

"Mae'r cyngor wedi gweithio'n galed i helpu pobl ddigartref ac mae gennym strategaeth newydd i fynd i'r afael â digartrefedd.

"Rydym yn sicrhau bod cefnogaeth a chyngor yn cael ei roi i bobl sy'n cysgu ar y stryd o fewn 48 awr."

Rhan o 'anoddefgarwch ehangach'

Mae elusen Shelter Cymru hefyd yn galw am waredu nodweddion pensaernïol sy'n rhwystro pobl ddigartref, er eu bod wedi dweud nad oes ganddynt ystadegau penodol am Gymru.

"Mae'r defnydd o bensaernïaeth elyniaethus fel pigynnau, breichiau ar fainc a rheiliau i atal pobl sy'n ddigartref rhag gallu gorwedd neu eistedd mewn ambell fan yn cyd-fynd gydag anoddefgarwch ehangach tuag at bobl sy'n cysgu ar y stryd.

"Byddai'n well defnyddio'r adnoddau sy'n rhan o ddylunio, adeiladu a chynnal y rhwystrau yma i fynd at wraidd digartrefedd ac atal hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf; a sicrhau bod cymorth ar gael pan fydd yn digwydd.

"Rydym yn croesawu'r cynnig i gynnwys y broblem hon fel mater cynllunio."

Dywedodd y pensaer Jonathon Adams wrth BBC Radio Wales bod meinciau sydd wedi eu dylunio i atal pobl ddigartref rhag cysgu arnynt "ym mhobman ac yn ofnadwy".

Awdurdodau lleol neu landlordiaid preifat sy'n gyfrifol am feinciau a dodrefn eraill sydd tu allan, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi clustnodi £30m i daclo digartrefedd.