Pebyll yn arwydd o 'argyfwng' digartrefedd yn ôl elusen

  • Cyhoeddwyd
Tents on a Cardiff street

Mae rhesi o bebyll mewn dinasoedd bellach yn arwydd o'r argyfwng digartrefedd yng Nghymru, yn ôl Shelter Cymru.

Mae'n anodd gwybod faint yn union o bobl sy'n cysgu ar y strydoedd, ond dywedodd Shelter Cymru bod y sefydliadau sy'n eu cynorthwyo nhw'n dweud bod 'na gynnydd wedi bod.

Yn ôl yr elusen mae angen gwneud mwy i gael pobl oddi ar y strydoedd ac i mewn i gartrefi eu hunain.

Yn ôl prif weithredwr canolfan elusen Huggard yng Nghaerdydd, byddai lleihau'r stigma'n ymwneud â'r defnydd o gyffuriau yn helpu i leihau'r broblem.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod digartrefedd yn flaenoriaeth a'i bod wedi rhoi mwy o gyllid i gynghorau ac elusennau i helpu pobl sy'n cysgu ar y strydoedd.

'Cynnydd enfawr'

Mae Richard Edwards o ganolfan Huggard yn dweud bod angen creu mannau lle gall pobl gymryd cyffuriau yn ddiogel, a chael mynediad at gymorth pan fydd ei angen arnyn nhw.

Mae wedi gweld cynnydd enfawr yn y defnydd o gyffuriau o fewn y gymuned ddigartref, gyda heroin a sbeis ymhlith y cyffuriau mwyaf cyffredin.

"Y llynedd, mi gafodd 89 o bobl gefnogaeth gynnon ni a mynediad i wasanaethau, ond dros yr un cyfnod, roedd 198 o bobl newydd wedi cofrestru ar ein cronfa ddata cyfnewid nodwyddau, felly mae hwn yn rhyfel da ni'n ei golli ar hyn o bryd," meddai.

Disgrifiad,

Mae Heddyr Gregory o Shelter Cymru yn dweud fod sefyllfa digartrefedd yn "argyfyngus"

Mae Richard Edwards yn argyhoeddedig y byddai agor canolfannau penodol yn cadw mwy o bobl oddi ar y strydoedd.

"Os oes rhywun yn gaeth i heroin, efallai bod angen iddyn nhw chwistrellu eu hunain saith neu wyth gwaith y dydd.

"Mae hynny'n peryglu eu hiechyd yn ddifrifol ac mae 'na bosibilrwydd y gallen nhw gymryd gorddos a marw o ganlyniad i hynny," dywedodd Mr Edwards.

Ychwanegodd bod pobl yn cymryd cyffuriau ar y strydoedd oherwydd nad oes modd gwneud hynny o fewn gwasanaethau.

"Rydym yn gweld pobl yn marw ar y strydoedd o ganlyniad i hyn. Mae hyn yn gorfod stopio.

"Nid yw hyn yn dderbyniol mewn cymdeithas wâr."

Stori Chris

Roedd Chris o Ffynnon Taf wedi bod yn athro am 25 mlynedd cyn i'w ddibyniaeth ar alcohol arwain at gyfnod yn y carchar.

Bu'n byw yn ei gar am chwe blynedd a hanner, gan weithio'n achlysurol gyda bandiau.

Dywedodd bod cynilo arian i dalu am rent neu forgais yn amhosib iddo. Dioddefodd o ddiffyg maeth a sylweddolodd bod angen cymorth arno.

Erbyn hyn mae wedi cael budd o gynllun Byddin yr Iachawdwriaeth - Cartrefu yn Gyntaf - prosiect yn darparu cartref i bobl mor gyflym â phosib ac yna'n eu cefnogi gyda'u problemau.

Mae wedi derbyn allweddi i'w gartref ei hun yn sgil y cynllun, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

"Sliperi, dwr twym, gwely - tri pheth rydych chi'n breuddwydio amdanyn nhw pan 'da chi'n byw yn yr awyr agored.

"Y gallu i agor oergell, mae'n teimlo fy mod i'n byw'n foethus gyda phethau mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol."

Arbed arian

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ariannu chwe chynllun Tai yn Gyntaf, sy'n cael eu rhedeg gan asiantaethau amrywiol.

Ond mae elusen Shelter Cymru yn dweud bod angen mwy ohonyn nhw, ac y byddai hynny'n arbed arian i'r gwasanaeth iechyd yn y pen draw.

Mae elusen ddigartrefedd arall, The Wallich, hefyd yn dweud fod angen mwy o gydweithio rhwng darparwyr gwasanaethau.

Dywedodd llefarydd bod yn rhaid i sefydliadau'r trydydd sector frwydro yn aml am gyllid gan gynghorau a'r llywodraeth a bod angen strategaeth ar draws y sector iechyd, tai a chyfiawnder troseddol.

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol a thai yng Nghymru, Julie James yn dweud ei bod am edrych ar adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa, ond ei bod yn hanfodol sicrhau bod y llety yn y mannau cywir ac yn diwallu anghenion pobl.

Ychwanegodd Ms James ei bod yn gobeithio y byddai prosiectau Tai yn Gyntaf ar gael yn y rhan fwyaf o leoedd gyda phroblemau digartrefedd erbyn gaeaf nesaf.