Cyn-brifathro, David Bundock, yn cyfaddef troseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
David Watkin Bundock
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Watkin Bundock yn cael ei adnabod fel Watkin Bundock

Mae cyn-brifathro ysgolion cynradd yng Ngheredigion wedi pledio'n euog i chwe chyhuddiad o droseddau rhyw.

Fe gyfaddefodd David Watkin Bundock, 74, i gael pedwar llun Categori A - y math mwyaf difrifol - yn ei feddiant, i geisio cyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn, ac i gyhuddiad o feithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn.

Cafodd Bundock, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, ei anrhydeddu yn 2004 ag MBE am ei wasanaethau i addysg.

Bu'n brifathro ar Ysgol Gynradd Llandysul, Ysgol Aberbanc, Ysgol Pontsian ac Ysgol Capel Dewi. Roedd hefyd yn archwilydd lleyg i Estyn hyd at 2016.

Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng Hydref 2017 a mis Ionawr 2019.

Dyw'r cyhuddiadau ddim yn ymwneud â'i gyfnod fel prifathro neu swyddog.

Cafodd Bundock ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 21 Mawrth yn Llys y Goron Abertawe.