Ymgyrch Pallial: Dedfryd o garchar i gyn-weithiwr gofal
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weithiwr cymdeithasol a dirprwy reolwr cartref gofal wedi cael dedfryd o naw mlynedd o garchar am gam-drin dau fachgen yn rhywiol yn y 1970au.
Roedd Huw Meurig Jones, 69 oed o Hen Golwyn yn Sir Conwy, yn gwadu 13 cyhuddiad o droseddau rhyw hanesyddol, ond fe'i gafwyd yn euog o 10 o'r cyhuddiadau gan reithgor yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug.
Clywodd y llys iddo gam-drin un o'r bechgyn yng Nghanolfan Asesu Little Acton yn Wrecsam, lle'r oedd yn ddirprwy arolygydd ar y pryd.
Cafodd yr ail fachgen ei gam-drin pan roedd Jones yn weithiwr cymdeithasol gyda'r hen Gyngor Sir Clwyd.
'Targedau hawdd'
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrth Jones fod y plant wedi dioddef "camdriniaeth ddifrifol".
"Fe wnaethoch chi gadarnhau, yn eich tystiolaeth eich hun, eich bod yn gwybod eu bod nhw'n fregus iawn," meddai.
"Fe ddaethon nhw i'r system gofal yng ngogledd Cymru yn ofnus ac yn ddryslyd. Yn hytrach na gofalu amdanyn nhw, fe welsoch chi nhw fel targedau hawdd i fodloni eich chwantau rhywiol.
"Yn drychinebus, dyma achos sy'n tanlinellu unwaith yn rhagor sut y bradychwyd plant mewn gofal yn y cyfnod dan sylw."
Dywedodd Owen Edwards, ar ran yr amddiffyn, bod Jones wedi colli ei enw da yn llwyr.
Cafodd Jones ei arestio fel rhan o Ymgyrch Pallial - ymchwiliad yr Asiantaeth Trosedd Genedlaethol i gamdriniaeth hanesyddol o fewn y system gofal yng ngogledd Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2018