Disgyblion yn gwrthod gwisgo trwynau coch Comic Relief

  • Cyhoeddwyd
Plant Treganna
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Treganna wedi dewis peidio gwisgo'r trwynau coch traddodiadol

Mae disgyblion ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi penderfynu peidio gwisgo trwynau coch ar ddiwrnod Comic Relief mewn ymdrech i leihau'r defnydd o blastig.

Yn hytrach, bydd disgyblion Ysgol Gynradd Treganna yn paentio eu trwynau yn goch.

Yn ôl rhai o'r disgyblion, maen nhw wedi bod yn cael gwersi ar newid hinsawdd ac effaith plastig ar anifeiliaid y môr ac felly wedi teimlo'r angen i weithredu.

Dywedodd llefarydd ar ran Comic Relief eu bod yn falch o weld yr ysgol yn parhau i gefnogi'r diwrnod, a'u bod yn chwilio am ddewisiadau eraill ar gyfer y trwynau coch yn y dyfodol.

Mae Emi a Mia o Ysgol Gynradd Treganna wedi derbyn cefnogaeth eu cyd-ddisgyblion a'r staff ar gyfer y paentio.

Dywedodd Mia: "Fe wnes i ysgrifennu llythyr at yr ysgol yn awgrymu i ni beidio â gwisgo'r trwynau coch ar y diwrnod, a phaentio ein trwynau yn lle.

"'Dwi'n meddwl ei fod yn syniad da achos dyw e ddim yn dda i ddefnyddio plastig achos mae'n mynd i'r môr ac yn niweidio anifeiliaid."

Deiseb yn erbyn y trwynau coch

Ychwanegodd Bethan, sydd hefyd yn ddisgybl yn yr ysgol: "Does dim llawer o ddefnydd i'r trwyn coch fel tegan. Mae e jest yn cael ei wisgo un diwrnod o'r flwyddyn.

"Dwi ddim yn meddwl bod chi'n mynd i gerdded rownd yn gwisgo trwyn coch bob dydd!"

Mae deiseb ar wahân wedi dechrau ar-lein yn galw ar roi stop i werthiant y trwynau coch, gan annog y BBC a Comic Relief i fod "ar flaen y gad o ran newid agweddau am blastig".

Mae'r BBC wedi derbyn cais am ymateb.