Cwpan FA: Abertawe 2-3 Manchester City
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Manchester City i frwydro 'nôl yn hwyr i drechu Abertawe o 3-2, er gwaethaf perfformiad arwrol gan yr Elyrch.
Daeth yr Elyrch yn agos i gyflawni sioc enfawr wrth i'r tîm cartref fynd ar y blaen o 2-0 cyn hanner amser.
Ond roedd gallu ymosodol pencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr yn ormod i Abertawe wrth iddynt ildio tair gôl yn yr ugain munud olaf.
Ymosod gwnaeth yr ymwelwyr o'r cychwyn cyntaf, gyda Leroy Sane yn gorfodi arbediad campus gan Kristoffer Nordfeldt cyn i Riyad Mahrez benio heibio'r postyn pellaf.
Ond wedi 9 munud, cafodd amddiffynnwr Cymru, Conner Roberts ei lorio yn y cwrt cosbi gan Fabian Delph.
Matt Grimes ergydiodd o'r smotyn a tharo'r bêl i gornel chwith y gôl, gan yrru Ederson y ffordd anghywir.
Roedd awyrgylch y Liberty yn drydanol, ac wrth i Man City barhau i bwyso roedd Abertawe yn llwyddo i wrthymosod yn effeithiol.
Fe ddyblwyd mantais y tîm cartref wedi 29 munud diolch i gyn-chwaraewr Manchester City, Bersant Celina.
Ar ddiwedd symudiad ardderchog a ddechreuodd wrth draed y golwr, llwyddodd Celina i grymanu'r bêl i gornel uchaf y rhwyd.
Cynyddodd y pwysau ar amddiffyn Abertawe ar ôl i Raheem Sterling a Sergio Aguero ddod i'r cae fel eilyddion yn yr ail hanner.
Buan wedi'r newidiadau hynny fe sgoriodd Bernado Silva i'r ymwelwyr. Wrth i'r bêl neidio o gwmpas y cwrt cosbi fe darodd Silva ergyd bwerus i'r gornel bellaf.
Deg munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Aguero ail i City o'r smotyn wedi tacl ddadleuol gan Cameron Carter-Vickers ar Sterling.
Roedd gôl arall i'r ymwelwyr i'w weld yn anochel wrth i dîm Pep Guardiola ymosod yn ddi-baid, a daeth y gôl hollbwysig gyda dau funud yn weddill.
Croesiad ardderchog Silva yn llwyddo i ganfod Aguero a beniodd yn gywir i gornel isaf y rhwyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2019