Carcharu ar gam: Dim camau disgyblu yn erbyn yr heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad annibynnol wedi penderfynu nad oes digon o dystiolaeth i ddweud fod swyddogion Heddlu'r Gogledd yn euog o dorri canllawiau, na chwaith o unrhyw drosedd, yn achos dyn dieuog o Wrecsam gafodd ei garcharu am lofruddiaeth merch 15 oed nôl yn 1976.
Cafodd ymchwiliad i'r swyddogion ei gynnal ar ôl i Lys Apêl ddiddymu dedfryd Noel Jones ym mis Ionawr eleni gan gyfeirio at "anghyfiawnder difrifol".
Cafodd Mr Jones, sy'n 61 oed, ddedfryd o 12 mlynedd yn y carchar am lofruddiaeth Janet Commins o'r Fflint gan dreulio chwe blynedd yn y carchar.
Ond fe wnaeth apelio yn erbyn y penderfyniad wedi i dechnoleg DNA arwain at gael Stephen Hough yn euog o'r drosedd yn 2017.
Dywed Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) eu bod wedi cynnal ymchwiliad i'r heddlu oedd yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol yn 1976.
Fe wnaeth SAYH hefyd gynnal ymchwiliad i'r arolwg o'r achos gafodd ei gynnal gan Heddlu'r Gogledd yn 2006.
Roedd hyn cynnwys ystyried penderfyniadau a wnaed ynglŷn â phroffil DNA gafodd ei ddarganfod ar drywsus Janet Commins - DNA nad oedd yr heddlu yn gwybod i bwy oedd yn perthyn.
Dywedodd llefarydd ar ran SAYH: "Fe wnaeth ein hymchwiliad ddod i'r penderfyniad fod y dystiolaeth yn annigonol o ran dangos fod swyddogion wedi gwyrdroi cwrs cyfiawnder, camymddwyn na chwaith torri rheolau a chanllawiau disgyblaeth."
Fe wnaeth yr ymchwiliad hefyd benderfynu nad oedd y swyddog wnaeth gynnal arolwg o'r achos gwreddiol wedi torri'r rheolau.
Dywedodd Derrick Campbell, cyfarwyddwr rhanbarthol SAYH: "Yn ystod ein hymchwilaid, roeddwn yn ymwybodol fod swyddogion yn y 1970au gyda llawer mwy o ryddid wrth holi pobl dan amheuaeth.
"Rydym hefyd yn cydnabod fod holi swyddogion a thystion mwy na 40 mlynedd wedi'r digwyddiadau yn anorfod yn mynd i olygu fod yna fylchau wrth geisio cofio.
"Er hyn roedd yn bwysig i ni edrych ar sut gafodd yr ymchwiliad yma, a gafodd cryn sylw ar y pryd, ei gynnal a hynny er mwyn pawb sy' wedi bod ynghlwm â'r achos."
Roedd Mr Jones, oedd yn 18 oed pan gafodd ei ddedfrdyu. Ni wnaeth herio'r dyfarniad tan i Hough gael ei erlyn.
Dywedodd Mr Jones wrth y Llys Apêl bod hyn oherwydd ei fod yn Sipsi ag anawsterau dysgu, oedd wedi'i wneud yn "fwch dihangol" gan yr heddlu.
Fe wnaeth Janet ddiflannu ar ôl gadael ei chartref i fynd i nofio ar 7 Ionawr 1976, a cafodd ei chorff ei ddarganfod bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Cafwyd Hough yn euog o'i dynladdiad yn 2017, ac fe gafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 15 mlynedd o garchar.
Fe ddaeth hynny wedi iddo gael ei arestio yn 2016 mewn cysylltiad ag achos arall, a phan gafodd DNA Hough ei roi yn y system daeth i'r amlwg mai ef oedd yn gyfrifol am ladd Janet 'nôl yn 1976.
Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Dan Tipton o Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn cydnabod canfyddiadau'r adroddiad - cafodd ymchwiliad trwyadl ei wneud a'i gwblhau.
"Rydym unwaith eto eisiau estyn ein cydymdeimlad dwys i deulu Janet Commins."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2017