Y Chwe Gwlad: Merched Cymru 24-5 Merched Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Jess KavanaghFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Jess Kavanagh sgoriodd y cais cyntaf i Gymru ym Mharc yr Arfau

Mae tîm rygbi merched Cymru wedi gorffen eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth gyfforddus o 24-5 yn erbyn Iwerddon.

Llwyddodd Cymru i sgorio pedwar cais mewn gêm am y tro cyntaf eleni er mwyn sicrhau pwynt bonws.

Ar ôl i gais Beibhinn Parsons roi'r ymwelwyr ar y blaen, roedd cais yr un gan Jess Kavanagh a'r capten Carys Phillips yn ddigon i roi'r crysau cochion ar y blaen cyn hanner amser.

Bethan Lewis sgoriodd y trydydd cais i'r tîm cartref cyn i Jasmine Joyce selio'r fuddugoliaeth gyda dau funud yn weddill.

Golyga'r fuddugoliaeth, eu hail yn y gystadleuaeth eleni, bod Cymru yn gorffen yn bedwerydd yn y tabl.

Lloegr orffennodd ar frig y tabl wedi iddynt sicrhau'r Gamp Lawn gyda buddugoliaeth yn erbyn yr Alban.