Merch yn diolch am ei llyfr Cymraeg cyntaf mewn braille
- Cyhoeddwyd
Roedd Diwrnod y Llyfr yn gyffrous iawn i un Gymraes ifanc eleni - fe gafodd ei llyfr Cymraeg cyntaf mewn braille.
Ers dwy flynedd mae Mari wedi bod yn dysgu sut i ysgrifennu a darllen braille gan fod ei golwg yn dirywio oherwydd cyflwr airidia.
Ond does yna ddim llyfrau addas yn ei mamiaith wedi bod ar gael iddi - tan nawr.
![Mari gyda Llinos Griffiths, ei mam Caryl, a'r pennaeth Carys Thomas pennaeth Ysgol Llandwrog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B852/production/_106068174_mari.jpg)
"Mae Mari yn mwynhau darllen fel unrhyw blentyn arall," meddai mam Mari, Caryl, sydd yn y canol gyda Llinos Griffith, cymhorthydd Ysgol Llandwrog, ar y chwith, y pennaeth Carys Thomas ar y dde... ac wrth gwrs Mari
I ddathlu Diwrnod y Llyfr eleni fe wnaeth y Cyngor Llyfrau gomisiynu dau lyfr newydd gan weithio gyda'r elusen i'r deillion RNIB er mwyn cael rhai ar ffurf hygyrch.
Ac felly mae Mari newydd gael copi braille o 'Na, Nel! Un tro...' gan Meleri Wyn James a 'Darllen gyda Cyw' gan Anni Llŷn.
Yn ôl ei mam, Carys, fu'n siarad ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru, mae'n bwysig bod yr adnoddau ar gael iddi.
Meddai: "Mae'n rili braf bod mwy o lyfrau Cymraeg mewn braille yn dod allan i blant achos mae Mari yn mwynhau darllen fel unrhyw blentyn arall ac mae'n bwysig eu bod nhw ar gael.
![Mari a'r peiriant braille](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/412/cpsprodpb/10672/production/_106068176_img_1233.jpg)
"Y cyflwr sydd ganddi ydi airidia. Mae hi wedi ei chofrestru yn ddall ond mae ganddi rywfaint o olwg, ac felly'n gallu darllen print bras.
"Mae'r ysgol yn chwyddo llyfrau fyny iddi i faint 48 ond os mae hi wedi blino mae hi'n stryglo i ddarllen print mor fawr â hynny hefyd.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
"Y tebygrwydd ydi mi neith hi golli ei golwg i gyd fel aiff hi yn hŷn felly mae'r braille yn ofnadwy o bwysig - ac mae o yna i Mari wedyn yn dydi.
"Mae cael y llyfrau Cymraeg mewn braille yn gam ymlaen a 'da ni'n falch ein bod ni wedi archebu'r llyfrau newydd yma.
"Mae Mari yn edrych ymlaen at gael darllen nhw.
"Mae'n bwysig ei bod hi'n cael yr un cyfleoedd a phawb arall, ei ffrindiau a'r dosbarth i gyd."
![Mari a'r peiriant braille](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/412/cpsprodpb/470A/production/_106068181_img_1231.jpg)
Mari yn defnyddio'r peiriant 'brailler'
Ers dwy flynedd mae Mari, sy'n ddisgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Llandwrog ger Caernarfon, wedi bod yn dysgu sut i ddefnyddio peiriant brailler er mwyn ysgrifennu.
Mae hi rŵan yn dysgu darllen braille hefyd gyda chymorth Llinos Griffith, sy'n gymhorthydd yn yr ysgol.
Meddai: "Mae o fel iaith wahanol. Mae'n anodd - ond mae Mari yn gwneud yn dda iawn ac mae yna wasanaeth arbenigol yn dod i mewn - sef Llinos a Catrin - ddwywaith yr wythnos yn rhoi cefnogaeth i ni fel ysgol i allu defnyddio'r brailler a dysgu wrth fynd ymlaen.
"Gan ein bod ni'n cychwyn rŵan, mae'r ddarpariaeth yn eithaf da, ond wrth i ni fynd yn ein blaenau bydd angen mwy.
"Maen nhw'n sôn am touch typing a phan fydd y cyfrifiadur yn siarad efo Mari fydd o'n Saesneg felly mae cael darpariaeth yn Gymraeg yn ofnadwy o bwysig."
Mae fersiynau hygyrch o Na, Nel! Un tro… a Darllen gyda Cyw ar gael drwy linell gymorth yr RNIB (0303 123 9999 neu ebostio helpline@rnib.org.uk)