UKIP yn galw am refferendwm ar gael gwared â'r Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Cynulliad yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 yn 2024

Mae UKIP wedi mabwysiadu polisi o wrthwynebu'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywed y blaid yng Nghymru eu bod eisiau i refferendwm gael ei chynnal ar y cwestiwn o gael gwared ar y Cynulliad.

Maen nhw eisiau i'r bleidlais gael ei chynnal yn 2024, ar ben-blwydd y sefydliad yn 25 oed.

Deellir fod y polisi wedi derbyn sêl bendith unfrydol Pwyllgor Gweithredol UKIP.

Cafodd pennaeth UKIP yng Nghymru, Gareth Bennett, ei ethol gan aelodau'r blaid (tua 900) yng Nghymru ym mis Awst 2018.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bennett: Am gael refferendwm ar ddatganoli

Mae Mr Bennett wedi ceisio newid polisi'r blaid ar ddatganoli ers rhai misoedd.

Dywedodd UKIP y bydd y polisi ar ddatganoli yn ogystal â Brexit nawr yn rhan flaenllaw o'u hymgyrchu ar gyfer isetholiad Gorllewin Casnewydd ar 4 Ebrill.