£100,000 o feiciau modur wedi eu dwyn o garej yn Rhaeadr
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog garej ym Mhowys wedi dweud bod lladron wedi torri drwy wal frics er mwyn dwyn gwerth £100,000 o feiciau modur dros y penwythnos.
Cafodd yr 11 beic sgramblo KTM oren llachar eu dwyn o Garej Sycamore (E.T. James) ar Heol y Dwyrain yn Rhaeadr yn ystod oriau mân fore Sul, 17 Mawrth.
Yn ôl y perchennog nid dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael eu targedu gan ladron.
Mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw'n ymchwilio.
Wedi cael eu targedu
"Rydyn ni'n gwybod fod y lladron wedi bod ar y safle rhwng 22:30 nos Sadwrn, 16 Mawrth a 04:15 fore Sul", meddai Alan James, un o berchnogion garej E.T. James.
"Mae lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos fan wen Mercedes Sprinter yn cyrraedd ac yn gadael ystâd ddiwydiannol gerllaw yn ystod yr amser yna.
"Ar ôl i ni gyfri y stoc fe welson ni bod 12 o feiciau sgramblo newydd sbon wedi cael eu dwyn, ac offer hefyd.
"Er bod ganddon ni yswiriant rydyn ni fel gwerthwyr yn cael ein targedu gan gangiau sy'n gwybod llawer am y diwydiant.
"Ro'n nhw'n gwybod yn iawn beth roedden nhw'n ei wneud... roedden nhw wedi torri drwy ddwy haenen o frics er mwyn cael mynediad."
Mae'r garej, sy'n gwerthu beiciau ail law a cherbydau amaethyddol, yn berchen i'r un teulu ers iddo agor yn 1921.
Fe gadarnhaodd Mr James nad dyma'r tro cyntaf i feiciau gael eu dwyn o'r safle.
"Yn anffodus, gyda beiciau fel hyn, gan nad ydyn nhw'n rhai sy'n cael eu defnyddio ar y ffyrdd, does dim modd i asiantaeth moduro'r DVLA ddilyn eu trywydd."
"Yr unig ffordd fydden ni'n dod o hyd i unrhyw un ohonyn nhw nawr ydy os bydden nhw'n cael eu cymryd i gael eu trwsio mewn garej, a'u bod nhw'n digwydd edrych ar rif y chassis fyddai wedyn yn ymddangos ar y system ganolog fel peiriant sydd wedi cael ei ddwyn."
Ychwanegodd ei fod yn "hynod siomedig" gyda'r digwyddiad, a'i fod yn "amau'n fawr iawn y gwelwn ni'r beiciau yma eto".
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Rydyn ni'n ymchwilio i ladrad yn Rhaeadr lle cafodd gwerth £100,000 o eiddo ei ddwyn.
"Os oes gan unrhyw un wybodaeth allai gynorthwyo'r swyddogion gyda'u hymchwiliad, mae modd cysylltu â nhw drwy ffonio 101."