Gwelliant ym mherfformiad unedau brys ym mis Chwefror
- Cyhoeddwyd
Mae perfformiad unedau brys yng Nghymru wedi gwella yn ystod mis Chwefror, ond yn parhau i fod yn lawer is na'r targed.
Dangosodd y ffigyrau diweddaraf, gafodd eu cyhoeddi dydd Iau, bod 79% o gleifion wedi treulio llai na pedair awr yn yr uned frys, i gymharu â 77.2% ym mis Ionawr.
Y targed yw bod 95% o gleifion yn cael eu trin o fewn yr amser yma.
Dyma'r unig fis yn ystod y gaeaf sydd wedi gweld perfformiad gwell i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ei fod yn croesawu'r gwelliannau, er mai Chwefror oedd un o'r misoedd prysuraf ar gyfnod.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos gwelliant amlwg ym mherfformiad Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd.
Yr amseroedd aros ar gyfer uned frys ysbyty Maelor Wrecsam ym mis Ionawr oedd y gwaethaf ar gofnod yng Nghymru - gyda dim ond 49.3% o gleifion yn cael eu trin o fewn pedair awr.
Fe gododd y ffigwr yno i 57.1% ym mis Chwefror.
Er bod gwelliant hefyd yn ffigyrau Glan Clwyd, mae'r ddau ysbyty yn parhau ar waelod y rhestr o ran perfformiad unedau brys yng Nghymru.
Cafodd 94.9% o gleifion eu trin o fewn 12 awr ar hyd Cymru, cynnydd i gymharu ag Ionawr a Chwefror y llynedd.
Daeth i'r amlwg bod 4,007 o gleifion wedi disgwyl mwy na 12 awr. Y targed yw bod neb yn gorfod disgwyl cyhyd mewn uned frys.
Darpariaeth 'effeithlon'
Ychwanegodd Mr Gething: "Er ein bod yn gweld mwy o bobl yn dod drwy ddrysau ein hysbytai, mae'n dda gweld bod gofal a gynlluniwyd yn parhau i gael ei ddarparu'n effeithlon, a'n bod ni'n lleihau'r amseroedd aros hiraf."
Croesawodd Mr Gething hefyd y gwelliannau mewn amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAHMS) a thriniaeth canser.
"Mae mwy o gleifion canser yn cael eu trin o fewn yr amser targed nag erioed o'r blaen. Roedd cynnydd o 3% yn nifer y cleifion a gafodd eu trin o fewn yr amser targed yn y 12 mis diwethaf o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol, a 7% yn fwy na phum mlynedd yn ôl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018