Carcharu cyn-brifathro am droseddau rhyw yn erbyn plant

  • Cyhoeddwyd
David Watkin BundockFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae cyn-brifathro ysgolion cynradd yng Ngheredigion wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis o garchar ar ôl pledio'n euog i chwe chyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Roedd David Watkin Bundock, 74, wedi cyfaddef cael pedwar llun Categori A - y math mwyaf difrifol - yn ei feddiant, ceisio cyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn a chyhuddiad o feithrin perthynas amhriodol â phlentyn.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Abertawe, Keith Thomas bod troseddau Bundock yn rhai "echrydus".

Cafodd Bundock, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, ei anrhydeddu yn 2004 ag MBE am ei wasanaethau i addysg.

Troseddu eto ar fechnïaeth

Bu'n brifathro ar Ysgol Gynradd Llandysul, Ysgol Aberbanc, Ysgol Pontsian ac Ysgol Capel Dewi. Roedd hefyd yn archwilydd lleyg i Estyn hyd at 2016.

Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng mis Hydref 2017 a Chwefror 2019, a doedd y cyhuddiadau ddim yn ymwneud â'i gyfnod ym myd addysg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae David Watkin Bundock yn cael ei adnabod fel Watkin Bundock

Clywodd y llys bod Bundock wedi dod at sylw'r heddlu ar ôl iddyn nhw arestio dyn arall ar amheuaeth o rannu lluniau anweddus, ac roedd Bundock yn un o'r rhai oedd wedi bod yn cysylltu gydag ef.

Wedi i'r cyn-brifathro gael ei arestio daeth i'r amlwg ei fod wedi bod yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â bechgyn.

Dywedodd Bundock wrth un bachgen 14 oed ei fod "methu disgwyl bod yn noeth" gydag ef.

Er iddo gael ei arestio ym mis Gorffennaf 2018, clywodd y llys bod Bundock wedi troseddu eto tra ar fechnïaeth.

Grŵp targedu pedoffiliaid

Dywedodd yr erlyniad bod Bundock wedi cael ei ddal gan grŵp sy'n targedu pedoffiliaid, oedd wedi ffugio bod yn fachgen 15 oed.

Roedd wedi trefnu i gwrdd y "bachgen" yng Nghaerfyrddin ond pan gyrhaeddodd yno y grŵp oedd yno i'w gyfarfod.

Llwyddodd i yrru i ffwrdd o'r criw, gan daro un ohonynt gyda'i gar wrth ffoi, ond cafodd ei arestio yn ei gartref yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Cafodd Bundock hefyd ei wneud yn destun gorchymyn atal niwed rhyw a'i atal rhag gweithio gyda phlant yn y dyfodol.