Emiliano Sala: Honiad bod asiant 'wedi bygwth lladd'
- Cyhoeddwyd
Mae asiant fu'n gweithio ar drosglwyddiad Emiliano Sala i Glwb Pêl-droed Caerdydd dan ymchwiliad gan Heddlu'r Met yn dilyn honiadau ei fod wedi bygwth staff y clwb.
Bu farw'r ymosodwr 28 oed o'r Ariannin wedi i'r awyren roedd yn teithio arni gwympo i Fôr Udd ym mis Ionawr, ddyddiau'n unig ar ôl cwblhau ei drosglwyddiad.
Dyw Willie McKay ddim yn asiant bellach, ond roedd yn helpu ei fab, Mark, i gwblhau'r cytundeb welodd Sala yn symud o Nantes i Gaerdydd am £15m.
Mae Mr McKay wedi bod yn destun ymchwiliad gan Heddlu De Cymru yn dilyn honiadau ei fod wedi bygwth lladd staff Clwb Pêl-droed Caerdydd.
Yr honiad yw bod hyn yn ymwneud â ffrae dros bwy fydd yn gyfrifol am dalu iawndal.
Fe wnaeth o leiaf un o'r bygythiadau honedig ddigwydd yn Llundain, ac felly mae Heddlu De Cymru wedi trosglwyddo'r ymchwiliad at Heddlu'r Met.
Mae Mr McKay eisoes wedi cyhuddo Caerdydd o "gefnu" ar Sala, gan ddweud y bu'n rhaid iddo drefnu ei drafnidiaeth ei hun ar ôl arwyddo i'r Adar Gleision.
Mae Mr McKay wedi cadarnhau mai ef oedd yn gyfrifol am drefnu'r awyren.
Cafodd corff Sala ei godi o weddillion yr awyren ar wely'r môr ym mis Chwefror, ond mae'r peilot David Ibbotson yn parhau ar goll.
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi gwrthod gwneud sylw am yr ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019