Plaid yn galw am gyfeirio ymddygiad Arglwydd Elis-Thomas

  • Cyhoeddwyd
Arglwydd Elis-Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn dadlau nad oedd angen i brif weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol siarad Cymraeg

Dylai'r Prif Weinidog gyfeirio ymddygiad un o'i weinidogion at ymgynghorydd annibynnol, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.

Mae Adam Price AC yn honni bod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas o bosib yn agos at dorri'r cod gweinidogol ar ddau achlysur.

Daw'r alwad yn sgil dadl rhwng y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Fe aeth y llyfrgell yn groes i ddymuniadau'r llywodraeth wrth hysbysebu am brif weithredwr oedd yn siarad Cymraeg.

Dangosodd e-byst bod swyddogion y llywodraeth wedi trafod defnyddio'r cyllid ar gyfer yr Archif Ddarlledu Genedlaethol i roi pwysau ar y llyfrgell i gyd-ymffurfio gyda'u dyheadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price wedi ysgrifennu llythyr o "gwyn swyddogol" at y prif weinidog ynglŷn ag ymddygiad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Mewn llythyr i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford dywedodd Mr Price bod "dim amheuaeth" fod y Gweinidog a'i swyddogion wedi ceisio "ymyrryd gyda'r broses benodi".

"Yn ddiamau hefyd, fe fu ymgais i godi ofn ar y Llyfrgell Genedlaethol gyda bygythiadau o ymyrryd â'r cyllid ar gyfer yr Archif Ddarlledu Genedlaethol," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gallwn gadarnhau bod llythyr wedi ei anfon gan arweinydd Plaid Cymru i'r Prif Weinidog y bore 'ma. Byddwn yn ymateb maes o law."