Cofio dyn o Sir Gâr wnaeth oroesi ffrwydrad mawr 1917
- Cyhoeddwyd
Mae plac arbennig wedi cael ei ddadorchuddio yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn i gofio am fywyd nodedig cyn-reolwr gorsaf trên Bronwydd.
Tom Evan Davies oedd rheolwr yr orsaf - ar y lein rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth - yn yr 1950au a 60au.
Yn ogystal â'i ymgyrch i gadw'r orsaf ar agor, bydd Mr Davies yn cael ei gofio hefyd am iddo oroesi ffrwydrad enfawr wnaeth ddinistrio tref porthladd yn Canada yn 1917.
Roedd Mr Davies yn gwasanaethu ar long confoi pan gafodd porthladd Halifax ei ddinistrio'n llwyr.
Cafodd 2,000 o bobl eu lladd, a dim ond tri o forwyr wnaeth oroesi.
3,000 tunnell o ffrwydron
Bydd y plac wrth y fynedfa i orsaf Bronwydd, tua phedair milltir i'r gogledd o Gaerfyrddin, yn cael ei ddadorchuddio gan un o wyrion Mr Davies, David Jones.
Er mai Evan sydd ar y gofeb ac Evan sydd ar ei garreg fedd, ar lafar gwlad Ifan Tom oedd e' i bawb.
Dywedodd Mr Jones: "Wnaeth e ddim sôn rhyw lawer am y ffrwydrad - ac fe gafodd ei ddisgrifio fel y ffrwydrad mwyaf o'i fath tan ffrwydradau'r bomiau niwclear dros Japan yn yr Ail Ryfel Byd.
"Cafodd y ffrwydrad ei achosi ar ôl i ddwy long wrthdaro, ac roedd un ohonynt - yr SS Mont-Blanc - yn cludo 3,000 tunnell o ffrwydron."
Fe wnaeth y ffrwydrad ddinistrio ardal yr harbwr a 1,600 o adeiladau, gan anafu 9,000 o bobl.
Roedd llong Ifan Tom, yr SS Picton, tua 100 troedfedd o'r man lle ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Yn ôl yr ŵyr roedd ei dad-cu yn cofio gweld "fflach" cyn iddo gael ei daro yn anymwybodol.
Pan ddeffrodd dywedodd ei dad-cu ei fod mewn "cyflwr o sioc ac roeddwn yn chwerthin yn afreolus - roedd fy nillad i gyd wedi mynd, heblaw am ambell ddilledyn o amgylch fy nghoes".
Ar ôl y rhyfel fe wnaeth Mr Davies weithio fel glöwr yng nglofa Pentremawr ym Mhontyberem tan iddo symud i orsaf Bronwydd yn 1953 ac aros yno nes i'r orsaf gau oherwydd toriadau Beeching yn 1965.
"Roedd e'n gweithio chwe diwrnod yr wythnos lawr y pwll," meddai Mr Jones.
"Fe ddywedodd wrthyf ei fod yn teithio 14 milltir y dydd ar ei feic i'r gwaith ac yn ôl.
"Pan gyrhaeddodd gartref roedd fy mam-gu yn llenwi bath gyda dŵr o'r afon, ac ar ôl ymolchi byddai'n mynd lawr i'r dafarn."
Fe wnaeth Cyngor Cymuned Bronwydd gyfrannu at gost y plac, gafodd ei ddadorchuddio brynhawn Sadwrn.
Dywedodd Arwyn Thomas, hanesydd lleol, ei fod yn adnabod Mr Davies a'i fod yn dipyn o gymeriad.
"Roedd e' wrth ei fodd yn pysgota - sewin a brithyll - weithiau yn gyfreithiol ond weithiau ddim. Roedd yn 'nabod bob pwll yn yr afon," meddai.
Cafodd gorsaf Bronwydd ei hailagor gan wirfoddolwyr o Gymdeithas Rheilffordd Gwili yn 1975.
Dywedodd Mr Thomas: "Fe wnaethom benderfynu gosod y plac ar ei gartref oherwydd bod Ifan Tom yn gymeriad mor adnabyddus yn lleol.
"Fe wnaeth ymgyrchu mor galed i achub y rheilffordd a'r orsaf, ond fe fethodd ac atal toriadau Beeching."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2017