Cyngor yn symud pebyll y digartref yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Pabell yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn symud pebyll gwag o ganol y ddinas ers mis Chwefror

Mae swyddogion cyngor a'r heddlu wedi symud pebyll pobl ddigartref o barcdir yng nghanol Caerdydd.

Roedd Cyngor Caerdydd wedi rhoi 24 awr i'r bobl ddigartref oedd wedi codi gwersyll ger Rhodfa'r Amgueddfa symud oddi yno, cyn trefnu i symud y pebyll ddydd Iau.

Dywed y cyngor eu bod yn "arbennig o bryderus" ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion iechyd a diogelwch yn yr ardal dan sylw.

Ond mae swyddogion yn pwysleisio eu bod yn awyddus i helpu pobl ddigartref y ddinas gael mynediad at wasanaethau cymorth.

Symud pebyll 'gwag'

Mae'r awdurdod wedi bod yn symud pebyll "oedd wedi eu gadael" yn y ddinas ers dechrau Chwefror, ac wedi rhybuddio unigolion sydd yn dal yn byw mewn pabell bod rhaid iddyn nhw adael os nad ydyn nhw'n ymateb i gynigion o lety.

Yn y mis diwethaf, mae 19 o bebyll wedi eu symud o'r strydoedd, sy'n golygu mai dim ond 15 pabell sydd yna bellach yng nghanol y ddinas.

Dywedodd y cyngor bod y pebyll a gafodd eu symud yn eiddo i unigolion sydd wedi eu cartrefu erbyn hyn.

Mae pebyll yn cael eu "monitro'n ddyddiol" ac yn cael eu symud pan fo tîmau cymorth a'r heddlu yn gwybod eu bod yn wag.

Mae'r cyngor yn pwysleisio nad ydyn nhw'n symud pebyll lle mae rhywun yn byw, a'u bod yn hytrach yn cyflwyno hysbysiad sy'n rhybuddio bod y cyngor yn gallu symud y babell.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae gan y cyngor bryderon difrifol am ddiogelwch a lles unigolion sy'n cysgu mewn pebyll ac rydym yn gweithio'n galed i annog pobl ddigartref i wneud defnydd o wasanaethau niferus y ddinas sydd yna i'w cynorthwyo i gael lloches.

"Mae yna nifer fach o bebyll mewn ardaloedd gwyrdd yn y ddinas ac rydym yn benodol yn bryderus am dir parc ger Rhodfa'r Amgueddfa lle mae yna ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn ogystal â phryderon iechyd a gofal.

"Mae ein tîmau cymorth wedi ceisio trafod gyda meddianwyr y pebyll sawl tro, i ddarparu gwybodaeth a rhoi cymorth iddynt ddod o hyd i loches a gwasanaethau cymorth. Fodd bynnag, mae rhai yn gwrthod trafod gyda ni."

"Am fod y gwersyll yn torri is-ddedf sy'n gwahardd codi pebyll ym mharciau Caerdydd, cafodd nodyn i adael ei roi i symud y pebyll o fewn 24 awr, cyn i swyddogion orfod eu symud."

Ychwanegodd y cyngor eu bod yn "parhau i fod â llefydd ar gael mewn nifer o lochesi gwahanol yn y ddinas, ac rydym yn annog unrhyw un sy'n cysgu ar y strydoedd neu mewn pabell i fanteisio ar y cyfle i ddod i mewn."