Drakeford: Diddymu Erthygl 50 yn opsiwn 'olaf un'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i deuluoedd Cymru

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud y byddai'n cefnogi atal Brexit, os mai dyna'r unig ffordd o beidio gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Ond dywedodd Mr Drakeford - diwrnod wedi i ASau fethu â chefnogi cynigion amgen ar gyfer Brexit - fod gan diddymu Erthygl 50 oblygiadau gwleidyddol dyrys.

Awgrymodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, nad oedd safle Carolyn Harris fel dirprwy arweinydd Llafur Cymru yn gredadwy bellach, wedi iddi ymwrthod rhag pleidleisio dros bleidlais gyhoeddus arall.

Fe wnaeth dau AS o Gymru - Ms Harris, AS Dwyrain Abertawe a Chris Evans, AS Islwyn - ymwrthod rhag y bleidlais honno, gyda Ms Harris yn dweud bod ei phleidlais yn adlewyrchu "barn y mwyafrif yn ei hetholaeth".

Fel mae hi ar hyn o bryd, bydd y DU yn gadael yr UE ar 12 Ebrill.

'Goblygiadau dyrys iawn, iawn'

Yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog, fe ofynnodd Mr Price i Mr Drakeford a fyddai'n cefnogi diddymu Erthygl 50.

Dywedodd Mr Drakeford: "Petaem yn yr eiliad olaf un, gyda Brexit di-gytundeb neu diddymu yn unig yn opsiynau, oherwydd yr effaith difrifol byddai Brexit di-gytundeb yn ei gael ar bobl yma yng Nghymru... petawn yn bwrw pleidlais, byddwn yn pleidleisio dros ddiddymiad."

Ychwanegodd: "Oherwydd byddai'r canlyniadau mor drychinebus i deuluoedd yng Nghymru.

"Ond i fi, byddai'n rhaid i ni wybod ein bod yn yr eiliad olaf honno, am fod goblygiadau cyfansoddiadol a gwleidyddol gweithredu felly yn rhai dyrys iawn, iawn."

Ni fyddai penderfyniad o'r fath yn nwylo'r Cynulliad - yn hytrach, ASau a gweinidogion San Steffan fyddai'n gyfrifol.

Pwysleisiodd Mr Drakeford na ddylid defnyddio diddymu Erthygl 50 fel tacteg.

Disgrifiad o’r llun,

Awgrymodd Adam Price nad oedd gan Mark Drakeford hyder yn nirprwy arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris

Gofynnodd Mr Price a oedd Mr Drakeford yn gresynu gweld 24 o ASau Llafur yn pleidleisio yn erbyn cynnal pleidlais gyhoeddus eto, a bod Ms Harris wedi methu cefnogi polisi'r blaid.

Ni atebodd Mr Drakeford y cwestiwn yn uniongyrchol: "Dwi'n gresynu nad ydy Tŷ'r Cyffredin wedi gallu dod o hyd i fwyafrif i'r un o'r cynigion a gyflwynwyd neithiwr."

Dywedodd Mr Price ei fod yn "dehongli'r ffaith nad yw'n ateb yn ffordd o ddangos nad oes ganddo hyder yn nirprwy arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru".

Sefyllfa 'chwerthinllyd' Llafur

Mae un o aelodau cabinet Llywodraeth Cymru wedi dweud bod sefyllfa Llafur yn "eithriadol o chwerthinllyd" wedi pleidleisiau nos Lun.

Mae yna hefyd sôn - gyda Llywodraeth y DU eisoes wedi canslo eu gwyliau nesaf - bod Mr Drakeford yn ystyried ail-alw'r Cynulliad yr wythnos nesaf hefyd i drafod y posibilrwydd o Brexit di-gytundeb.

Byddai'n rhaid i'r Llywydd Elin Jones gymeradwyo hynny ar gais Mr Drakeford - a byddai'n rhaid i hynny ddigwydd cyn dydd Iau.