Rhybudd am ddiffyg chwaraewyr rygbi mewn clybiau bach

  • Cyhoeddwyd
Rygbi

Mae clybiau rygbi amatur ar draws Cymru yn rhybuddio bod newidiadau cymdeithasol a demograffig wedi arwain at leihad mawr yn nifer y bechgyn sy'n chwarae rygbi ar ôl gadael ysgol.

Mae ffigyrau sydd wedi eu casglu gan BBC Cymru yn dangos bod 30% o glybiau'r ail a thrydydd adran wedi gohirio gemau y tymor hwn oherwydd diffyg chwaraewyr.

Nawr mae rhai clybiau'n galw ar Undeb Rygbi Cymru fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Dywedodd yr undeb bod nifer o fentrau i hybu'r gêm ieuenctid ac ail dimau, a bod hyn wedi arwain at gynnydd mawr yn y nifer sy'n chwarae.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Liam Williams yn asgellwr a chefnwr i Gymru, Y Llewod a Saracens

Ar un wal yn nhŷ clwb Penlan mae llun sy'n destun cryn falchder i'r clwb.

Darlun o Liam Williams ifanc, yn wên o glust i glust yn ei grys gwyrdd ysgolion Cymru. Bellach mae'r asgellwr wedi chwarae i Gymru a'r Llewod.

Mae gan y clwb - sydd yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Abertawe - adran iau llwyddiannus, ond mae'r tîm cyntaf ar ei hôl hi eleni ar waelod adran 3A.

"Ni'n stryglan blwyddyn hyn, yn galed, a nid dim ond ni, mae lot o dimau yr un peth a ni, ond ni wir wedi stryglan," meddai Elfed Morgan, Cadeirydd Clwb Rygbi Penlan.

"Ni wedi mynd ar y cae gyda 12 dyn tair gwaith.

"Mae bois yn cael eu hanafu wedyn a ni'n gorfod canslo'r gemau a mae Undeb Rygbi Cymru yn penaliso ni wedyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy sefyllfa clwb Penlan ddim yn unigryw, meddai Elfed Morgan

"Dim ond chwe phwynt oedd 'da ni ond maen nhw wedi mynd a nhw i gyd oddi wrtho ni."

"O' ni yma un dydd yn chwarae Swansea Uplands, dim ond 10 dyn oedd gyda ni, ond o' nhw'n fodlon mynd ar y cae. Ond diolch i dduw droies y referee ddim lan!"

Diffyg chwaraewyr

Dyw profiad Penlan ddim yn unigryw - dywedodd 30% o dimau'r ail a thrydydd adran eu bod wedi gorfod gohirio gemau oherwydd diffyg chwaraewyr y tymor yma.

Dywedodd dros 80% bod timau eraill wedi gorfod gohirio gemau yn eu herbyn nhw oherwydd diffyg chwaraewyr.

Yn ôl Elfed mae'n rhaid i Undeb Rygbi Cymru gymryd cyfrifoldeb.

"So' nhw'n 'neud dim i ni. Chi'n gofyn i nhw am grants a pethau, a chi'n cael dim 'da nhw.

"Mae'r clybiau sy'n neud yn oreit, maen nhw i'w gweld bod nhw'n cael popeth, ond clybiau fel ni sy mewn trwbl, s'mo nhw'n helpu ni o gwbl."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl swyddogion Porth Tywyn mae nifer o fechgyn ifanc yn stopio chwarae ar ôl gadael yr ysgol

Clwb sy'n ymddangos fel eu bod yn mwynhau llwyddiant ar hyn o bryd yw Clwb Rygbi Porth Tywyn.

Mae'r tîm ger Llanelli wedi ennill y bowlen yn Stadiwm Principality, a dyrchafiad i'r ail adran yn ddiweddar.

Ond mae ysgrifennydd y clwb yn dweud bod llenwi carfan yn frwydr.

"O'r blaen roedd gan Porth Tywyn ail dîm, tîm cyntaf, a chwaraewyr sbar oedd eisiau chwarae i'r ddau dîm", meddai Jonathan Davies.

"Nawr does dim ail dîm da ni, ni'n chwarae ambell i friendly pan da ni'n gallu ond dydyn ni ddim yn y league nawr."

Yn ôl Mr Davies mae sawl rheswm pam ei bod hi'n anodd dal gafael ar fechgyn ifanc ar ôl pasio oedran y tîm ieuenctid.

"Ni'n colli llawer o chwaraewyr i brifysgol a ma' rhai ddim yn dod nôl, rhai yn mynd bant mas o Gymru i ddysgu a ddim yn dod nôl."

Ychwanegodd: "Ni'n colli rhai i bêl-droed - ar adegau ni 'di cael 60 o chwaraewyr mas ar brynhawn Sadwrn… weithiau eraill ni'n stryglo i gael tîm cyntaf mas."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eon Williams yn Swyddog Datblygu Rygbi yn ardal Dolgellau

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru maen nhw'n ymwybodol bod problemau, ac mae rheolau hyblyg wedi eu cyflwyno i sicrhau bod rhagor o gemau'n mynd yn eu blaen.

Bydd modd chwarae 10 yn erbyn 10 oes ydy'r ddau dîm yn cytuno i wneud hynny.

Yn ogystal, mae mentrau i annog clybiau i redeg timau dan-17 i leddfu'r pontio rhwng timau dan-16 a thimau ieuenctid.

Hefyd mae cynllun swyddog sy'n gweithio mewn ysgolion i hybu rygbi ac phontio gyda chlybiau lleol wedi bod yn llwyddiant meddai'r undeb.

'Dyfodol yn ddisglair'

"I fod yn onest dwi'n meddwl bod gan Gymru ddyfodol reit ddisglair yng nghymunedau fatha hyn," meddai Eon Williams, Swyddog Datblygu Rygbi yn ardal Dolgellau.

"Mae Clwb Rygbi Dolgellau 'efo lot mwy o blant rwan nag oedd arfer bod... merched a hogiau.

"Ac yn enwedig gyda'r merched, ma' Gwylliaid Meirionnydd wedi dechrau fyny - sef rhwng Bala, ni a Blaenau Ffestiniog.

"Ac i ddangos beth 'da ni yn neud 'da ni'n mynd yn erbyn timau o lawr yn y de, a mae'r Gwylliaid yn un o'r timau gorau yng Nghymru ar y funud.

"Mae'n dangos mae o'n gweithio a ma'r hub officer programme yn gweithio'n dda iawn yn yr ardal yma hefyd."

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, ers i'r swyddogion cyntaf cael eu penodi yn 2014, mae nifer y gemau rygbi sy'n cael eu chwarae yn ysgolion a cholegau wedi cynnyddu'n ddramatig.

Eu gobaith yw y bydd y chwaraewyr newydd yma yn parhau i chwarae ar ôl gadael yr ysgol, er mwyn sicrhau bod clybiau rygbi yng Nghymru yn gallu ffynnu unwaith eto.