Uwch Gynghrair Lloegr: Manchester City 2-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gôl Kevin de BruyneFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Wedi gôl gyntaf Kevin de Bruyne ers Rhagfyr roedd Caerdydd ar y droed ôl gydol y gêm

Mae brwydr Caerdydd i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn parhau ar ôl colli 2-0 i Manchester City nos Fercher.

Roedd tîm Neil Warnock dan bwysau o'r dechrau gan ildio'r rhan helaeth o'r meddiant i'r tîm cartref, ond fe fyddai'r bwlch wedi bod yn fwy oni bai am arbedion campus golwr Caerdydd, Neil Etheridge.

Fe roddodd Kevin de Bruyne y gwrthwynebwyr ar y blaen wedi chwe munud, ond er sawl cyfle bu'n rhaid i'r pencampwyr aros tan bron ddiwedd yr hanner cyntaf i ymestyn y fantais.

Leroy Sane sgoriodd yr ail gôl wedi 44 o funudau a hynny yn sgil cyffyrddiad Gabriel Jesus, oedd wedi colli cyfle hawdd ei hun yn yr hanner cyntaf.

Fe gafodd Caerdydd ergyd addawol tua diwedd yr ail hanner pan fu'n rhaid i Ederson atal ymdrech Oumar Niasse.

Ond roedd y fuddugoliaeth yn un hawdd yn y pen draw i dîm Pep Guardiola, sydd bellach yn ôl ar frig y tabl.

Mae'r Adar Gleision yn parhau yn yr 18fed safle gyda 28 o bwyntiau.