Marwolaeth bachgen, 3, yn Llanybydder yn ddamwain

  • Cyhoeddwyd
Evan Lloyd WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Evan Lloyd Williams yn byw gyda'i rieni a'i frawd a chwaer, ac roedd wedi dechrau mynychu dosbarthiadau yn yr ysgol feithrin

Mae cwest wedi clywed bod bachgen ifanc wedi marw ar ôl disgyn o gefn Land Rover oedd yn cael ei yrru gan ei dad, cyn cael ei daro gan y cerbyd.

Bu farw Evan Lloyd Williams, tair oed, ar dir fferm ger Llanybydder ar 21 Hydref 2018.

Daeth rheithgor y cwest i'r casgliad bod y bachgen wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'w ben a dderbyniodd yn ddamweiniol.

Dywedodd y crwner Mark Layton fod y farwolaeth yn "drychineb ofnadwy".

Clywodd y cwest yn Aberdaugleddau bod Evan yn eistedd yng nghefn y Land Rover hefo'i chwaer cyn y digwyddiad.

Roedd eu tad, Dewi Williams, yn ceisio gyrru'r cerbyd am yn ôl rownd gornel, ac aeth y chwaer allan er mwyn ei helpu.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Sarjant Shane Davies o Heddlu Dyfed-Powys ei bod hi'n ymddangos fel bod Evan wedi disgyn o'r cerbyd, a bod y cerbyd wedyn wedi gyrru drosto.

Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad bod Evan wedi marw oherwydd anafiadau i'w ben.

Ychwanegodd Sarjant Davies nad oedd problem gyda drws y cerbyd, a'i bod hi'n debygol bod y drws wedi cael ei agor yn fwriadol.

Nid oedd y teulu yn dymuno gwneud unrhyw sylw.