Pobl mewn cartref gofal yn cael cadw £10,000 yn fwy

  • Cyhoeddwyd
gofalFfynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd pobl sy'n derbyn gofal mewn cartrefi preswyl yng Nghymru yn cael cadw £10,000 ychwanegol o'u cynilion cyn gorfod talu cost y gofal yn llawn.

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi cadarnhau cynnydd o £10,000 yn y terfyn cyfalaf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n codi tâl am ofal preswyl.

Mae hyn yn mynd â'r terfyn presennol o £40,000 i £50,000.

Mae'r terfyn cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i weld a oes angen i berson dalu'r gost lawn am eu gofal, neu os ydyn nhw'n gymwys i dderbyn cefnogaeth ariannol gan eu hawdurdod lleol.

Dywed llefarydd ar ran y Llywodraeth mai'r "lwfans hwn yng Nghymru yw'r mwyaf hael ledled y DU a'i fod yn ddwbl lwfans uchaf Lloegr a Gogledd Iwerddon o £23,250".

Yn yr Alban, y terfyn uchaf yw £28,000.

'Cymru mewn sefyllfa ffafriol'

I nodi dechrau'r terfyn newydd, bydd y Dirprwy Weinidog yn ymweld â chynllun byw'n annibynnol y mae'r Grŵp Pobl wedi'i sefydlu yng Nghasnewydd.

Mae'r cyhoeddiad yn galluogi pawb sy'n byw mewn cartref gofal yng Nghymru i gadw hyd at £50,000 o'i gynilion, buddsoddiadau neu gyfalaf arall.

Dywedodd Julie Morgan: "Mae Llywodraeth Cymru wedi'i hymrwymo i gefnogi pobl hŷn, a'r rheini y mae angen gofal arnyn nhw, i fyw fel y mynnant.

"Dwi wrth fy modd ein bod ni'n cyflawni ein haddewid, ddwy flynedd yn gynt na'r cynllun gwreiddiol, i ganiatáu i bobl gadw hyd at £50,000 o'u cynilion eu hunain i'w defnyddio fel y dymunant, heb orfod eu defnyddio i dalu am eu gofal.

"Mae'r cynnydd unwaith eto yn rhoi Cymru mewn sefyllfa ffafriol fel y wlad sydd â'r terfyn cyfalaf uchaf yn y DU."