Gofal pobl hŷn: 'Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud digon'

  • Cyhoeddwyd
gofalFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yn diodde' oherwydd diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Dywedodd Sarah Rochira fod y llywodraeth wedi methu cyflawni'r hyn y gwnaethon nhw addo dair blynedd yn ôl i wella ansawdd bywyd i bobl hŷn mewn gofal preswyl.

Mae adroddiad ganddi yn canolbwyntio ar welliannau mewn 15 maes gafodd eu henwi ganddi mewn adolygiad yn 2014, sy'n cynnwys atal cwympiadau, y defnydd o gyffuriau gwrth-seicotig, a hyfforddiant ar ddementia.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n cydnabod y prif gyhuddiad gan Ms Rochira.

'Dim arweinyddiaeth ddigonol'

Mae'r adroddiad newydd - 'Lle i'w Alw'n Gartref: Effaith a Dadansoddiad' - yn feirniadol o'r llywodraeth, byrddau iechyd a rhai awdurdodau lleol.

Yn ôl Ms Rochira does dim digon wedi newid ers yr adroddiad gwreiddiol, a dywedodd: "Pan gyhoeddais ganfyddiadau fy Arolwg o Gartrefi Gofal, roeddwn i'n glir bod angen amrywiaeth helaeth o gamau gweithredu, ar lefel leol a chenedlaethol, er mwyn sicrhau bod ansawdd bywyd yn ganolog i'n system cartrefi gofal.

"Mae Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol wedi gwneud cynnydd cadarnhaol ac, o ganlyniad i fy arolwg, maen nhw bellach yn darparu amrywiaeth helaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal, ond mae angen gwneud mwy ac mae angen cyflymu'r newid yn sylweddol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i breswylwyr cartrefi gofal.

"Fodd bynnag, rwy'n siomedig iawn bod Llywodraeth Cymru wedi methu dangos arweinyddiaeth ddigonol a chymryd camau gweithredu digonol mewn nifer o feysydd allweddol, fel gofal dal dŵr, atal cwympiadau a chynllunio gweithluoedd, lle mae angen dull cenedlaethol er mwyn sicrhau newid diwylliannol ystyrlon, sicrhau mwy o atebolrwydd a hyrwyddo'r gwaith o ddefnyddio arferion da sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn effeithiol."

Ychwanegodd y Comisiynydd ei bod wedi rhoi adborth i'r holl gyrff cyhoeddus yn yr adroddiad, a'i bod bellach yn disgwyl gweithredu pellach i wella bywyd i bobl hŷn.

Gwrthod yr honiad

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ers cyhoeddi adolygiad y Comisiynydd yn 2014 rydym wedi deddfu am newidiadau mawr i'r ffordd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu yng Nghymru.

"Hefyd mae corff newydd - Gofal Cymdeithasol Cymru - wedi cael ei sefydlu gyda'r nod o sicrhau fod pobl Cymru'n gallu galw ar weithlu gofal cymdeithasol o safon uchel i ddarparu gwasanaethau sy'n ateb eu gofynion yn llwyr.

"Ochr yn ochr â hyn mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyflwyno trefn newydd o arolygu gwasanaethau i awdurdodau lleol. Mae'r Comisiynydd yn croesawu hyn a gweithredoedd ymarferol eraill yn ei hadroddiad.

"Er ein bod yn cydnabod bod llawer o waith eto i'w wneud, nid ydym yn cydnabod y prif honiad. Fodd bynnag byddwn yn ystyried yr adroddiad yn fwy manwl dros y dyddiau nesaf ac yn ymateb i'w phryderon maes o law."

'Cyfnod economaidd mwyaf heriol'

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod yn parhau i weithio'n agos gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru mewn cyfnod ble mae "gwasanaethau hanfodol sy'n cael eu darparu gan lywodraeth leol o dan straen fel erioed o'r blaen".

"Mae ansawdd bywyd a'r gofal am bobl hŷn yn ein cartrefi gofal yn flaenoriaeth i gynghorau lleol Cymru, ac er bod sawl esiampl o ymarfer da yn yr adroddiad mae e hefyd yn nodi bod cyflymder newid ar draws Cymru yn amrywiol," meddai'r llefarydd.

"Er bod llywodraeth leol wedi ymrwymo i welliant parhaus o'r gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae'n eu cynnig, rhaid cydnabod ei fod yn ceisio gwneud hynny yn erbyn ton o gyfyngiadau ariannol difrifol tra bod disgwyliadau'r cyhoedd yn tyfu."