Chwythu'r chwiban: 'Ymddiheuriad diffuant'
- Cyhoeddwyd
![Cyngor Sir Benfro](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/DA6A/production/_106341955_pembrokeshire_county_hall.jpg)
Bu cabinet y cyngor yn trafod yr argymhellion ddydd Llun
Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cynnig ymddiheuriad i berson a gododd bryderon am weithiwr ieuenctid gyda'r cyngor a gafodd ei garcharu am droseddau rhyw.
Fe wnaeth Sue Thomas fynegi pryderon am Mik Smith yn Ebrill 2005, ond fe gafodd ei diswyddo y flwyddyn ganlynol gan yr awdurdod.
Fe wnaeth Smith barhau i weithio i'r cyngor tan iddo gael ei ddiswyddo yn 2012 am gamymddygiad dybryd.
Cafodd Smith, cyn weithiwr ieuenctid o Hwlffordd, ei garcharu am chwe blynedd yn 2014 am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Bu bron i Smith gael ei gymeradwyo fel gofalwr maeth gan Gyngor Sir Penfro er i bryderon gael eu mynegi am ei ymddygiad tra yng nghwmni plant.
![Michael John Smith](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/107BA/production/_96441576_a78333c8-b92c-4023-9c05-6e5db064ea72.jpg)
Cafodd Michael John (Mik) Smith ei gyflogi fel gweithiwr ieuenctid rhwng Mai 2001 a Ionawr 2012
Mewn cyfarfod fore Llun, fe wnaeth aelodau'r cabinet hefyd gytuno i dalu £1000 i elusen o ddewis Ms Thomas.
Fe wnaethon nhw hefyd gefnogi naw argymhelliad arall mewn adroddiad gan grŵp trawsbleidiol o gynghorwyr o dan gadeiryddiaeth y cyn AC Ceidwadol Jonathan Morgan.
Dywedodd arweinydd y cyngor, David Simpson eu bod yn cynnig "ymddiheuriad diffuant" i Sue Thomas.
Ychwanegodd aelod arall o'r cabinet, Neil Prior ei bod yn destun "siomedigaeth enfawr" bod y methiannau hanesyddol wedi digwydd o gwbl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2014