Dyn wedi'i garcharu am oes am lofruddio ei gymydog
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei garcharu am oes am lofruddio ei gymydog yn dilyn ffrae mewn maes carafanau yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd corff Simon Clark, 54, ei ddarganfod ym maes carafanau'r Grove ym Mhentywyn ar 28 Medi y llynedd.
Cafwyd Steven Baxter, 52, yn euog o'i lofruddiaeth yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun, a bydd yn treulio o leiaf 24 mlynedd dan glo.
Fe benderfynodd y rheithgor hefyd ddydd Llun bod cymydog arall i Mr Clark, Jeffrey Ward, 40, yn ddieuog o'r un drosedd.
Cafodd partner Mr Ward, Julie Harris, ei dedfrydu i 14 mis o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, wedi iddi bledio'n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder mewn cysylltiad â'r farwolaeth.
Clywodd y llys fod y tri dyn yn byw drws nesaf i'w gilydd ar y maes carafanau, ac yn ystod ffrae rhyngddynt ar 27 Medi, cafodd Mr Clark ei drywanu.
Aeth Baxter ar ffo o'r heddlu am wythnosau yn dilyn marwolaeth Mr Clark, gan ysgogi ymdrech eang gan Heddlu Dyfed-Powys i'w ddarganfod.
Cafodd Baxter ei ddal a'i arestio ar 27 Hydref yn ardal Pentywyn.
Roedd Baxter wedi gwrthod yr honiadau yn ei erbyn drwy gydol yr achos, gan ddadlau fod Mr Clark wedi marw drwy ddisgyn ar y gyllell wrth iddo geisio amddiffyn ei hun yn ystod y ffrae.
Dywedodd Meg Clark, mam Mr Clark, bod "ei bywyd wedi cael ei rwygo'n ddarnau" yn sgil marwolaeth "creulon" ei mab.
"Does gen i ddim geiriau i esbonio'r difrod sydd wedi ei achosi gan farwolaeth Simon... dwi'n gobeithio na gaiff ef [Baxter] ei ryddhau," meddai.
Clywodd y llys bod Baxter wedi bod yn byw yn Sir Gaerfyrddin am wyth mlynedd wrth iddo geisio ffoi rhag yr heddlu.
Roedd honiadau ei fod yn rhan o ddigwyddiad domestig difrifol yn cynnwys ei gyn-wraig.
Dywedodd Mr Ustus Picken fod Baxter yn "gwbl gyfrifol" am farwolaeth Mr Clark a'i fod wedi gwrthod dangos unrhyw edifeirwch am yr hyn yr oedd wedi ei gyflawni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd29 Medi 2018