A55 yn 'faes parcio posib' wedi Brexit heb gytundeb

  • Cyhoeddwyd
Porthladd Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Porthladd Caergybi yn un o'r prysuraf yn y DU

Gall rhan o'r A55 gael ei ddefnyddio fel maes parcio ar gyfer cerbydau trwm os bydd problemau wrth symud nwyddau yn sgil Brexit heb gytundeb.

Mae cynlluniau newydd Llywodraeth Cymru, gafodd eu cyhoeddi gan y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates ddydd Mawrth, yn nodi y byddai Parc Cybi yn cael ei ddefnyddio pe bai diffyg lle ym Mhorthladd Caergybi.

Ond os na fyddai safle Parc Cybi yn ddigon mawr yna bydd rhan o'r A55 - rhwng cyffyrdd dau a thri i gyfeiriad y gorllewin - yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio dros-dro.

Dywedodd Mr Skates "nad yw'n debygol" y bydd angen defnyddio'r A55 ond ei bod hi'n bwysig cael cynlluniau wrth gefn.

Mae'n bosib y gall y DU adael yr UE heb gytundeb mor fuan â 12 Ebrill, er i Aelodau Seneddol bleidleisio yn erbyn hynny.

Os na fydd cytundeb, bydd nwyddau o'r DU yn cael eu trin fel pe baent yn dod o "drydedd gwlad" wrth iddynt fynd i mewn i'r UE, a bydd archwiliadau ychwanegol yn cael eu cynnal arnynt yn Iwerddon.

Gallai hynny arwain at oedi cyn i fferïau fedru hwylio ac at sefyllfa lle bydd cerbydau'n cronni yng Nghaergybi.

Disgrifiad o’r llun,

"Un o'r nodau wrth lunio'r cynllun oedd sicrhau bod cyn lleied o effaith a phosib ar Gaergybi", yn ôl Mr Skates

Mae lle eisoes i 660 o gerbydau nwyddau trwm ym Mhorthladd Caergybi a bydd y cynllun yn darparu parcio di-dâl ar gyfer traffig cludo nwyddau a bydd trefniadau rheoli traffig yn eu lle er mwyn cyfeirio'r cerbydau i'r safle heb unrhyw oedi.

Ychwanegodd Mr Skates: "Er ei bod yn amhosibl lliniaru holl effeithiau niweidiol Brexit heb gytundeb, ein blaenoriaeth ni oedd gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r effaith ar gymunedau a busnesau yng Nghymru."

"Un o'r prif ystyriaethau oedd yr angen i sicrhau bod teithio ar y fferi rhwng Caergybi a Dulyn yn dal i fod ar agor a'i fod mor ddeniadol ag y bo modd i gludwyr nwyddau," meddai.

"Un o'r nodau wrth lunio'r cynlluniau oedd sicrhau y bydd cyn lleied o effaith â phosib ar Gaergybi a'r cyffiniau."

'Angen trafod â'r bobl leol'

Yn ôl y cynghorydd lleol, Trefor Lloyd Hughes, mae angen i'r awdurdodau sicrhau fod pobl leol yn ymwybodol o'r datblygiadau drwy gydol y broses.

"Dydw i ddim yn meddwl bod 90% o bobl leol yn ymwybodol o'r trefniadau hyn, a dydi hi ddim ond yn iawn eu bod nhw'n cael gwybod," meddai.

"'Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn deall faint o broblem gallai hyn fod i'r dref."

O dan amodau ymadael Heb Gytundeb bydd opsiynau Roadking a Pharc Cybi ar gael o 12 Ebrill ymlaen a gall opsiwn yr A55 fod ar gael o 15 Ebrill ymlaen os bydd ei angen.