Pentre’ gwyliau ar safle hen ffatri Ferodo yng Ngwynedd?
- Cyhoeddwyd
Bydd cynlluniau yn cael eu harddangos yng Nghaernarfon nos Fercher i ddatblygu safle ar gyrion y dref yn bentref gwyliau mawr.
Mae datblygwyr yn gobeithio codi pentref gwyliau gyda bythynnod a pharc dŵr ar safle hen ffatri Ferodo neu Friction Dynamics, a Phlastai Brereton a Thŷ Coch.
Mae'r ffatri a'r plastai, sydd oddi ar y ffordd fawr rhwng Caernarfon a Bangor, wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd.
Yn ôl y datblygwyr byddai Parc Gwêl y Fenai yn hwb i'r economi leol ac yn cynhyrchu nifer sylweddol o swyddi.
Mae sawl ymdrech flaenorol i ddatblygu'r safle, sy'n edrych dros y Fenai, wedi methu.
Ar un adeg roedd safle ffatri Ferodo yn cael ei ystyried ar gyfer codi carchar newydd cyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddewis safle Carchar y Berwyn yn Wrecsam.
Ond mae cwmni Maybrook Investments o Gaerwrangon, sydd bellach yn berchen ar yr hen ffatri 27 erw, ynghyd â Phlas Brereton a Phlas Tŷ Coch, yn dweud bod y safle yn ddelfrydol ar gyfer pentref gwyliau a pharc dŵr.
"Yn gyntaf mae o'n newyddion da i'r ardal - mi ddaw â gwaith i bobl leol", meddai Endaf Cooke, sydd â siop sglodion yng nghanol Caernarfon.
"Mae'r safle yn bach o eyesore ar hyn o bryd, ac o ran busnes yng Nghaernarfon dwi 100% yn gefnogol ohono fo."
Un arall sy'n gefnogol o'r cynllun ydy Gavin Owen, rheolwr Hwb Caernarfon, sef cynllun gwella ardal busnes y dre.
"Efo pob dim sydd wedi bod yn digwydd yn dre dros y blynyddoedd diwethaf - datblygiad y doc, sinema newydd, y stesion newydd, datblygiad yr harbwr - mae o'n newyddion grêt tasa fo'n digwydd," meddai.
Ond nid pawb sydd yr un mor ffafriol o'r syniad.
"Argraff gyntaf rhywun ydy ei fod o'n ddatblygiad mor fawr," meddai Selwyn Jones o siop Palas Print, a chadeirydd Llety Arall, sef menter gymunedol newydd yng nghanol Caernarfon."
Pa fudd i'r gymuned?
"(Dwi) bach yn bryderus mai cwmni datblygu efo pwyslais ar wneud arian sydd yn datblygu'r cynllun, felly'r cwestiwn ydy pa fudd mae hynny'n dod i'r gymuned yn lleol - boed hynny o ran swyddi a hefyd o ran yr economi ac i fusnesau yng Nghaernarfon.
"Mae rhywun hefyd yn betrusgar os mai pentre' gwyliau ydy o, pa effaith ma' hwnna'n cael ar fusnesau sydd yma yn barod - boed nhw'n westai, yn llefydd gwely a brecwast.
"Y cwestiwn syml ydy - er budd pwy mae hwn yn cael ei ddatblygu?"
Mi fydd cynlluniau'r pentre' gwyliau yn cael eu harddangos yn Galeri Caernarfon nos Fercher a safbwyntiau'r trigolion a busnesau lleol yn cyfrannu at y cynnig terfynol fydd yn mynd o flaen adran gynllunio Cyngor Gwynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2018
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018