Gwahardd rhieni Rhondda rhag ysmygu mewn gemau pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
plant yn chwarae pel-droedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ASH mae 66% o bobl ifanc yng Nghymru yn dechrau ysmygu cyn eu bod yn 18

Mae ymgyrch newydd i atal rhieni rhag smocio wrth wylio eu plant yn chwarae pêl-droed yn cael ei lansio ddydd Iau.

Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru sy'n gyfrifol am y cynllun, sy'n cael ei weithredu mewn partneriaeth ag ASH - y mudiad sy'n ymgyrchu yn erbyn ysmygu.

Dywedodd ASH bod yna ddau brif nod i'r cynllun, sef rhwystro plant rhag dioddef effeithiau mwg, ac i wneud ysmygu yn rhywbeth sy'n anarferol ymysg pobl ifanc.

Mae Cynghrair Iau Rhondda a'r Cyffiniau a Chynghrair Menywod a Merched Iau yn Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i gymryd rhan yn y cynllun peilot.

Mae'r prosiect dilyn ymgyrch tebyg oedd yn llwyddiant yn Norfolk, a pe bai'r fenter yn llwyddiannus dywedodd Rob Franklin, rheolwr datblygiad Ymddiriedolaeth CBDC eu bod am ehangu'r cynllun i Gymru gyfan.

"Rydym yn falch iawn i dreialu'r prosiect yma gyda Chynghrair Rhondda a'r Cyffiniau a Chynghrair Merched De Cymru," meddai.

"Os yw'r peilot yn llwyddiannus, byddwn yn edrych i lansio'r prosiect ar draws Cymru."

'Dylanwadu'n fawr'

Yn ôl ASH mae 66% o bobl ifanc yng Nghymru yn dechrau ysmygu cyn eu bod yn 18.

Mae'r canrannau ysmygu yn ardal y Rhondda ymhlith y rhai uchaf yng Nghymru, gyda 20% yn smocio.

Dywedodd Suzanne Cass, prif weithredwr ASH Cymru: "Mae cydweithio gydag Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhoi cyfle gwych i ni ledaenu ein neges i gannoedd o rieni a'u plant, a hynny mewn amgylchiadau sydd eisoes yn rhai sy'n hybu ymddygiad iachus.

"Mae plant yn copïo'r hyn maen nhw'n weld, ac yn cael eu dylanwadu'n fawr gan ymddygiad eu rheini a gofalwyr, felly mae gofyn i rieni beidio â smocio ar ymyl y cae yn gallu cael dylanwad mawr wrth benderfynu a fydd pob ifanc yn tyfu i fod yn ysmygwyr.