Neil Warnock i herio cyhuddiadau o ymddygiad amhriodol

  • Cyhoeddwyd
Neil WarnockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Warnock yn anhapus gyda sawl penderfyniad dadleuol yn ystod y golled i Chelsea mis Mawrth

Bydd rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock yn herio tri chyhuddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr o ymddwyn yn amhriodol.

Mae Warnock yn wynebu'r cyhuddiadau yn dilyn sylwadau mewn cyfweliadau ar ddiwedd y gêm rhwng Caerdydd a Chelsea ar 31 Mawrth.

Yn dilyn y golled o 2-1, fe ddywedodd rheolwr yr Adar Gleision mai dyfarnwyr Uwch Gynghrair Lloegr yw'r "gwaethaf yn y byd".

"Rydw i wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau ac yn disgwyl cael gwrandawiad rhyw dro'r wythnos hon," meddai Warnock.