Uwch Gynghrair Lloegr: Brighton 0-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Sean Morrison yn sgorio ail gôl Caerdydd yn erbyn BrightonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sean Morrison yn penio'r bêl i rwyd Brighton i'w gwneud hi'n 0-2 i'r Adar Gleision

Mae Caerdydd wedi sichrau pwyntiau pwysig yn y frwydr i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn erbyn y tîm sydd un safle uwch eu pennau yn y tabl.

Roedd y munudau cychwynnol yn llawn cyffro a sawl ymgais i sgorio gan ddau dîm oedd angen osgoi colli tir tua gwaelod y tabl ar ôl colli pedair gêm gynghrair yn olynol.

Aeth Caerdydd ar y blaen wedi 22 o funudau yn dilyn gwrthymosodiad ac ergyd droed dde gampus i gornel y rhwyd o ymyl y cwrt cosbi gan Nathaniel Mendez-Laing.

0-1 oedd y sgôr wedi'r hanner cyntaf yn Stadiwm Amex.

Fe ddyblodd yr Adar Gleision y fantais wedi 50 o funudau wedi cic rydd Victor Camarasa a pheniad Sean Morrison o ganol y cwrt cosbi.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Nathaniel Mendez-Laing yn sgorio'r gôl gyntaf

Roedd y goliau'n ddigon i sicrhau trydydd buddugoliaeth tîm Neil Warnock oddi cartref ers dechrau'r tymor.

Cyn y gêm roedd Caerdydd bum pwynt y tu ôl i Brighton yn yr 18ed safle. Mae'r bwlch bellach yn ddau bwynt.

Pedair gêm sydd gan yr Adar Gleision - un yn llai na Brighton - i geisio sicrhau tymor arall yn yr Uwch Gynghrair.

Y gwrthwynebwyr yw Lerpwl, Fulham, Crystal Palace a Manchester United gyda'r gemau yn Lerpwl a Manceinion oddi cartref.