Arwr Abertawe, Alan Curtis i ymddeol o hyfforddi

  • Cyhoeddwyd
Alan CurtisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Alan Curtis dros 400 o gemau dros yr Elyrch, gan sgorio 110 o weithiau

Bydd un o hoelion wyth Clwb Pêl-droed Abertawe, Alan Curtis yn rhoi'r gorau i hyfforddi ar ddiwedd y tymor.

Ond bydd Curtis - wnaeth droi'n 65 oed ddydd Mawrth - yn parhau i weithio o fewn y clwb fel llywydd anrhydeddus.

Roedd wedi bod yn is-reolwr i Graham Potter ar Stadiwm Liberty ers mis Mehefin y llynedd.

Ers ymddeol o bêl-droed proffesiynol mae wedi bod yn swyddog cymunedol, hyfforddwr ieuenctid, hyfforddwr tîm cyntaf, is-reolwr, rheolwr dros dro a phennaeth datblygu chwaraewyr ifanc gyda'r Elyrch.

'Amser yn iawn'

Yn wreiddiol o'r Rhondda, mae'n cael ei ystyried fel un o'r chwaraewyr gorau yn hanes Abertawe.

"Wedi dros 40 mlynedd o wasanaethu'r clwb, rwy'n teimlo bod yr amser yn iawn i gamu 'nôl o'r dyletswyddau o ddydd i ddydd," meddai Curtis.

Fe chwaraeodd dros 400 o gemau dros dri chyfnod gwahanol ar Gae'r Vetch, gan sgorio 110 gôl.

Enillodd 35 cap dros Gymru, ac fe weithiodd o fewn y tîm rheoli rhyngwladol am gyfnod.