Alan Curtis yn cael ei benodi'n is-reolwr Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-seren Clwb Pêl-droed Abertawe, Alan Curtis, wedi dychwelyd i dîm hyfforddi'r clwb fel is-reolwr i Graham Potter.
Dyma ei swydd gyntaf gyda'r tîm cyntaf ers iddo adael y tîm hyfforddi ym mis Ionawr 2017 i rôl oedd â chyfrifoldeb dros chwaraewyr oedd ar fenthyg, ar ôl penodiad Paul Clement fel rheolwr.
Ym mis Mai fe wnaeth Abertawe ddisgyn i'r Bencampwriaeth ar ôl saith tymor yn yr Uwch Gynghrair.
"Rwy'n gwybod y parch sydd gan bobl ato a pha mor bwysig yw Alan yn y clwb yma," meddai Potter.
"Does neb yn adnabod y clwb yn well. Bydd yn dod â phrofiad a safon fydd yn werthfawr iawn i ni.
"Mae Alan yn berson pwysig i'w gael o'n hamgylch ac mae'n gyffrous gweithio gydag ef."
Fe wnaeth Curtis ei ymddangosiad cyntaf dros Abertawe 46 mlynedd yn ôl, ac aeth ymlaen i chwarae dros 400 gwaith dros y clwb.
Ers ymddeol o bêl-droed proffesiynol mae wedi bod yn swyddog cymunedol, hyfforddwr ieuenctid, hyfforddwr tîm cyntaf, is-reolwr, rheolwr dros dro a phennaeth datblygu chwaraewyr ifanc gyda'r Elyrch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2018