Sefydlu caffi yn Nefyn i gynorthwyo pobl alarus

  • Cyhoeddwyd
poster caffi colled

Mae paratoadau ar y gweill yn Nefyn yng Ngwynedd i sefydlu digwyddiad misol i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd delio â cholli perthynas neu anwyliaid.

Bydd Caffi Colled yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth olaf bob mis rhwng 10:00 a 12:00 ac yn dechrau ddydd Mawrth nesaf - diwrnod olaf mis Ebrill.

Yn ogystal â chynnig cyfle i rannu profedigaeth, mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd modd i'r rhai sy'n mynychu gael cymorth ymarferol - er enghraifft, cyngor ar sut i roi trefn ar waith papur.

Dyma'r caffi cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru.

'Ddim yn trafod yn gyhoeddus'

Dywedodd un o'r trefnwyr - y Parchedig Sara Roberts, curad Ardal Weinidogaeth Bro Madryn - bod ei phrofiad wrth ymweld â phobl yn eu galar wedi'i hannog i sefydlu digwyddiad o'r fath.

"'Dwi'n clywed fwy a mwy yn fy swydd i," meddai, "bod tristwch a phrofedigaeth yn mynd ymlaen tu ôl i ddrysau pobl a neb yn ei drafod e'n gyhoeddus.

"Be 'dwi'n trio ei gael yw lle i bobl drafod gyda'i gilydd - lle i bobl rannu eu profiadau a'u hofnau, dim ots pa mor bell yn ôl yw'r brofedigaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Linda Hughes, Nia Humphreys a'r Parchedig Sara Roberts yn cyd-drafod cyn i'r digwyddiad cyntaf gael ei gynnal ddydd Mawrth nesaf

Un teulu allai elwa o'r cyfarfodydd ydy perchnogion maes carafannau'r Wern a Chaffi Ni ger Nefyn.

Fe gollodd Nia Humphreys ei thad y llynedd ac mae hi wedi bod yn gymorth mawr i'w mam, ond mae'n cydnabod nad pob teulu sydd mor ffodus i gael perthnasau wrth law ac fe fydd hi'n annog ei mam i fynd i'r digwyddiad.

Dywedodd: "Yn bendant byddai'n annog mam i fynd - mae cael pobl arall yr un fath â chi yn hwb mawr i symud ymlaen.

"Ni wedi gallu helpu mam wrth gwrs a rhoi trefn ar waith papur y busnes ond dyw pawb ddim â'r gefnogaeth yma.

"Does gan mam ddim cyfrifiadur ac ry'n wedi rhoi i-pad un o'r plant iddi a mae'n medru ateb e-bost bellach."

'Caniatâd i symud ymlaen'

Un arall sy'n canmol y syniad yw Linda Hughes o Hosbis Dewi Sant - elusen sy'n darparu gofal diwedd oes yn siroedd Môn, Gwynedd a Chonwy.

"'Dwi'n meddwl bod o'n syniad gwych mewn ardal wledig," meddai. "Mae'n gyfle i bobl sydd wedi dioddef colled i ddod allan eto heb ofni wynebu pobl.

"Yr hyn sy'n anodd, yn aml, yw fod pobl ddim yn siŵr sut fyddan nhw pan yn mynd allan yn gyhoeddus am y tro cyntaf wedi profedigaeth, ond mae caffi fel hyn yn rhoi caniatâd i bobl symud ymlaen, cyfarfod â phobl debyg ac fe fydd yn ffordd i bobl gyfarfod â ffrindiau newydd."

Bydd Caffi Colled yn cyfarfod am y tro cyntaf ar Ebrill 30 - rhwng 10 a 12 yn y Tŷ Doctor yn Nefyn ac yna y nos Fawrth ddiwethaf o bob mis.