CPD Caerdydd yn galw am dynhau rheolau hediadau
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn galw ar awdurdodau'r gêm i sicrhau bod clybiau a chwaraewyr ond yn defnyddio hediadau awdurdodedig.
Bu farw ymosodwr yr Adar Gleision, Emiliano Sala, a'r peilot, David Ibbotson mewn damwain awyren ar 21 Ionawr.
Fe ddangosodd adroddiad cychwynnol y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB) nad oedd gan Mr Ibbotson drwydded peilot fasnachol.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: "Mae gan y clwb bolisi hediadau clir, ond rydyn ni'n cyflwyno camau ychwanegol er mwyn amddiffyn ein chwaraewyr a'n staff."
Doedd Mr Ibbotson ddim yn gymwys i gludo teithwyr o fewn yr UE, os nad oedd hynny ar ffurf "rhannu'r gost" yn hytrach na'i fod yn cael ei dalu am hedfan.
Mae'r asiant pêl-droed, Willie McKay, wnaeth drefnu'r daith ar ran Sala, wedi dweud nad oedd hi'n daith ble roedd y gost wedi cael ei rhannu, gan godi cwestiynau os oedd yn hediad cyfreithlon.
Ychwanegodd y llefarydd: "Byddwn yn mynnu mai dim ond hediadau masnachol fydd yn cael eu defnyddio yn ystod trafodaethau am drosglwyddiadau chwaraewyr.
"Mae'n clwb ni wedi cael ei syfrdanu gan faint y broblem yn y byd chwaraeon ac yn ehangach... rydyn ni'n gobeithio y bydd clybiau eraill yn gwneud yr un peth."
Mae'r Gymdeithas Siarter Awyr (BACA) yn galw ar y llywodraeth i adolygu'r lefel o atebolrwydd troseddol mewn sefyllfaoedd o'r fath.
Dywedodd AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty bod angen adolygiad "ar frys" er mwyn darganfod maint y broblem mewn gwirionedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2019