Yr AS Chris Davies yn destun deiseb Galw Nôl
- Cyhoeddwyd
Mae Llefarydd Tŷ'r Cyffredin wedi cadarnhau y bydd yr Aelod Seneddol Chris Davies yn destun deiseb Galw Nôl yn ei etholaeth wedi iddo gyfaddef hawlio treuliau ffug.
Mae posibilrwydd y gallai nawr wynebu isetholiad pe bai digon o bobl yn ei etholaeth - Brycheiniog a Sir Faesyfed - yn arwyddo deiseb yn galw am hynny.
Cafodd yr AS Ceidwadol ddedfryd yn Llys y Goron Southwark ddydd Mawrth o wasanaeth cymunedol a dirwy o £1,500 am hawlio treuliau ffug.
Roedd yr AS, sy'n 51, eisoes wedi pledio'n euog ym mis Mawrth i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.
Dywedodd Mr Davies yn dilyn ei ddedfryd ei fod yn "ymddiheuro yn ddiamod" am yr hyn a wnaeth.
Ar gael am chwe wythnos
Dywedodd John Bercow ddydd Mercher y bydd yn ysgrifennu ar y swyddog deiseb perthnasol yn dilyn euogfarn Mr Davies.
Ychwanegodd bod y llys wedi cysylltu ag ef i gadarnhau euogfarn Mr Davies, a gan ei fod wedi pledio'n euog, nad oes modd apelio yn ei erbyn.
Y disgwyl yw y bydd y ddeiseb ar gael i'w llofnodi am chwe wythnos, a phe bai 10% neu fwy o'r etholaeth yn ei harwyddo yna bydd Mr Davies yn colli ei sedd a byddai angen isetholiad.
O'r ffigyrau diweddaraf ar gael, byddai hynny'n cyfateb i oddeutu 7,000 o lofnodion.
Mae Mr Davies eisoes wedi cael cefnogaeth Cymdeithas Geidwadol ei etholaeth.
'Rhyddhad' cyn-reolwr
Clywodd y llys ddydd Mawrth fod y cyhuddiadau yn ymwneud â chostau gafodd eu hawlio wrth iddo fynd ati i agor swyddfa yn ei etholaeth yn dilyn etholiad cyffredinol 2015.
Hwn oedd yr erlyniad cyntaf o'i fath o dan y Ddeddf Safonau Seneddol.
Yn ogystal â'r ddirwy, bydd yn rhaid i'r AS dalu costau'r achos, a bydd yn rhaid iddo gwblhau 50 awr o waith cymunedol di-dâl o fewn 12 mis.
Daeth troseddau Mr Davies i'r amlwg wedi i'w gyn-reolwr swyddfa, Sarah Lewis, ddod ar draws y dogfennau ffug a chysylltu â swyddogion y Blaid Geidwadol.
Dywed Ms Lewis ei bod yn falch na chafodd Mr Davies ddedfryd o garchar, gan ychwanegu: "Rwy'n teimlo rhyddhad bod fy mhenderfyniad wedi ei gyfiawnhau yn llwyr ac fe allai'r cyhoedd weld fy mod wedi gwneud y peth cywir.
"Fe wnaeth y ffaith ei fod yn meddwl bod hi'n dderbyniol i greu anfonebau ffug yn enw rhywun arall ein brawychu ni i gyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2019