GISDA: Staff wedi gadael 'oherwydd y prif weithredwr'

  • Cyhoeddwyd
Sian Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Mae 10 cyn-aelod o staff wedi gwneud honiadau yn erbyn Siân Elen Tomos

Mae 10 o gyn-weithwyr elusen digartrefedd yng Ngwynedd wedi dweud wrth BBC Cymru fod ymddygiad y prif weithredwr wedi achosi iddyn nhw adael eu swyddi.

Ers 2011 mae saith o gyn-reolwyr a thri chyn-weithiwr parhaol wedi gadael GISDA gyda nifer yn honni eu bod wedi cael eu bwlio.

Mae'r BBC wedi siarad gyda 10 o gyn-weithwyr sydd oll yn honni fod dulliau rheoli Siân Elen Tomos wedi bod yn gyfrifol am eu penderfyniad i adael.

Wrth ymateb i'r honiadau dywedodd bwrdd cyfarwyddwyr GISDA eu bod wedi "ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith iach i'w holl staff", a'u bod yn "hyderus yng ngallu'r prif weithredwr".

'Bwlio'

Doedd yr un o'r cyn-weithwyr am wneud cyfweliad yn gyhoeddus, ond fe wnaeth un gytuno i siarad yn ddienw.

Wrth ddisgrifio ymddygiad Ms Tomos dywedodd y cyn-weithiwr fod y prif weithredwr yn "gallu gwneud bywydau pobl yn annifyr iawn".

"[Roedd hi'n] cau ystyried beth oedd neb yn dd'eud, anwybyddu pobl a'i wneud yn hollol amlwg o flaen pawb," meddai.

"Yn troi ei chefn arnach os oeddech chi'n siarad gyda hi a cherdded i ffwrdd. Dwi 'di gweld hi'n cerdded allan o nifer o gyfarfodydd.

"Fydde hi ddim yn siarad gyda phobl am ddiwrnodau. Dim yn siarad o gwbl. Ac oedd hi'n gallu bod yn frwnt 'efo pobl hefyd.

"Dwi'n meddwl oedd hi'n gweithio ar wendidau pobl - bwlio really."

Wrth ddisgrifio yr effaith a gafodd hyn dywedodd yr unigolyn ei fod yn "teimlo'n sâl ac yn teimlo dros ffrindiau".

"Do'n i'm isio mynd i 'ngwaith. Dwi'n meddwl oedd o'n effeithio ar bobl ifanc hefyd. Odda nhw'n gweld gymaint o drosiant. O'dd 'na deimlad bod hi'n untouchable.

"Os nad oedd pobl yn cytuno o'dd hi'n cael gwared ohonyn nhw, neu yn gweithio i drio gael gwared ohonyn nhw."

'Amheus, digalon, pryderus a dig'

Mae llythyr sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos bod nifer o staff wedi cwyno am y sefyllfa yn 2017, er dim ond tri wnaeth ddilyn y broses swyddogol.

Mae'r llythyr hwnnw i fwrdd y cyfarwyddwyr yn nodi bod gweithwyr yn teimlo'n "amheus, digalon, yn bryderus ac yn ddig" a bod angen i'r elusen "weithredu'n bendant i brofi rhesymoldeb a thegwch wrth drin staff er mwyn osgoi argyfwng o forâl".

Fe wnaeth y llythyr orffen drwy alw ar yr elusen i "ystyried y lefel uchel o drosiant staff o fewn y sefydliad".

Yn ystod yr un flwyddyn fe gafodd adroddiad annibynnol ei gomisiynu i edrych ar gwynion dau o gyn-reolwyr yr elusen.

Mae'r adroddiad yn nodi cwynion y ddau gyn-reolwr a hefyd cwynion gan y prif weithredwr am ei staff, ac yn datgan fod sail rannol i gwynion y tri.

Wrth gydnabod problemau yn GISDA awgrymodd yr adroddiad nifer o ffyrdd i weithredu gan gynnwys:

  • Trefnu proses o gymodi yn y gweithle rhwng Ms Tomos a'r ddau gyn-reolwr;

  • Awgrymwyd i'r bwrdd y dylai hwythau adolygu eu proses gwyno a sicrhau fod cwynion yn cael eu hateb yn brydlon ac ddim yn cael eu hanwybyddu.

Mae'r aelod staff a siaradodd gyda BBC Cymru o'r farn na chafodd yr argymhellion yma eu gweithredu.

Fe adawodd yr unigolyn hwn sawl mis ar ôl yr ymchwiliad annibynnol a dywedodd y byddai wedi disgwyl gweld y newidiadau yn cael eu gweithredu.

Mae'r BBC hefyd wedi siarad gyda phedwar aelod arall o staff wnaeth adael ar ôl yr adolygiad sydd i gyd o'r un farn.

'Dylid cael bwrdd newydd'

Dywedodd y cyn-weithiwr: "Pan wnawd y petisiwn [llythyr gan staff] - o'dd lot yn cefnogi hwnna.

"Pan gatho ei anwybyddu, nath bobl feddwl, be' di'r pwynt o neud dim byd?

"Hen bobl oedd 'di bod yna rhy hir a wedi collli twtch ar be' o'dd yn mynd 'mlaen.

"Dwi'n meddwl dylid cael bwrdd newydd a bwrdd sydd yn atebol a bod pobl yn sylwi bod rhaid iddyn nhw fod yn atebol....

"Dwi'm yn gwbo… Dwi'n meddwl dylai'r prif weithredwr fynd."

'Hyder yng ngallu'r prif weithredwr'

Yn ôl ffynonellau BBC Cymru, dim ond tri chŵyn swyddogol sydd wedi eu gwneud ers 2011, ond fe ddywedodd nifer o gyn-weithwyr nad oeddynt wedi cwyno gan eu bod yn teimlo y byddai eu pryderon yn cael eu hanwybyddu.

Fe roddwyd y cyfle i Ms Tomos a Chadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, Tudor Owen, ymateb yn unigol i'r honiadau.

Mewn ymateb cafwyd datganiad ar y cyd ar ran y ddau.

Fe ddywedon nhw eu bod yn "cymryd unrhyw awgrym o fwlio neu gamwedd o ddifrif gan ei fod yn groes i'r ethos cynhwysol sy'n cael ei feithrin".

Dywedon nhw eu bod nhw "wedi cydymffurfio i'w rhwymedigaethau cyfreithiol" a bod y materion a godwyd wedi cael "sylw mewnol priodol".

Ychwanegodd y datganiad bod eu bod yn gwbl "hyderus yng ngallu'r prif weithredwr."