Sut beth yw cydweithio a chyd-fyw?

  • Cyhoeddwyd

Sut beth yw hi i gyd-fyw A chydweithio gyda'ch partner?

Mae Cymru Fyw wedi cael sgwrs â thri chwpl sydd hefyd yn cydweithio, er mwyn gweld sut mae bywyd pan ydych chi'n treulio eich holl ddyddiau gyda'ch gilydd. Ac mae dwy ochr i bob stori...

Gwyn a Stacey

Ffynhonnell y llun, N Treharne
Disgrifiad o’r llun,

Stacey Wheeler a Gwyn Hughes Jones

Mae'r cantorion Gwyn Hughes Jones a Stacey Wheeler yn dathlu 20 mlynedd o fod gyda'i gilydd eleni, ar ôl cyfarfod gyntaf wrth gydweithio mewn opera yn Chicago.

Maen nhw'n mwynhau cydweithio ar amryw brosiectau - ac yn cydberfformio mewn cyngerdd i nodi canrif ers sefydlu elusen Achub y Plant yng Nghadeirlan Bangor ar 18 Mai. Ond yn bennaf oll, mae'r ddau wrth eu boddau yn chwerthin gyda'i gilydd.

Stacey: Os oes un ohonon ni'n anghofio geiriau neu'n colli canolbwyntiad, dwi'n ei ffeindio hi'n anodd i gadw wyneb syth, yn enwedig os dwi'n dal llygad Gwyn. Dwi jest isho chwerthin dros y lle, ond mae'n rhaid i mi aros yn broffesiynol.

Gwyn: Mae troeon trwstan yn bethau cyffredin yn ein proffesiwn ni. Er 'mod i'n cymryd fy ngwaith yn ofnadwy o ddifri' dwi'n methu peidio â ffeindio lle i lond bol o chwerthin yn aml!

Beth ydi'r peth gorau am gydweithio?

Gwyn: Beth bynnag ddeudodd Stacey…

I fod o ddifri', medru treulio amser yng nghwmni'n gilydd. Mewn proffesiwn sydd yn gallu'ch galw i wahanol fannau'n y byd am gyfnodau maith, mae pob eiliad y cewch yng ngwmni'ch gilydd yn amrhisiadwy.

O safbwynt creadigol, y gallu i drafod gwaith yn onest a di-flewyn-ar-dafod efo artist proffesiynol a medrus, a'r pleser o weld Stacey'n datblygu ac yn mynd o nerth i nerth fel artist proffesiynol.

Stacey: Y peth gorau am gydweithio ydy ein bod ni ar yr un amserlen, yn yr un lleoliad ac yn yr un timezone! Weithiau, rydyn ni'n gallu treulio misoedd ar wahân.

Dwi hefyd wrth fy modd yn cydweithio efo Gwyn oherwydd mod i'n gweld ei agwedd tuag at ei ganu a'i yrfa. Rydyn ni'n onest gyda'n gilydd ac yn agored i syniadau ein gilydd, sydd yn fy herio a f'ysbrydoli i fod y canwr gorau y galla i fod.

A'r peth gwaethaf?

Stacey: Mae gennym ni'n dau ein syniadau artistig ein hunain o sut y dylai'r gerddoriaeth fod neu gael ei ganu. Weithiau, mae hyn yn golygu ein bod ni'n anghytuno, felly mae rhai ymarferion yn gallu cynnwys trafodaethau tanbaid!

Gwyn: Mae'n anodd, weithiau, bod yn amyneddgar pan yn rhannu syniadau. Mae'n cymryd amser i gysidro syniadau ddaw gan eraill. Mae'n bwysig parchu lle yr unigolyn i arbrofi efo syniadau heb iddynt fod o dan y chwyddwydr yn gyson.

Ydych chi wedi dysgu rhywbeth newydd am eich partner drwy weithio gyda nhw?

Gwyn: Heb os nag oni bai mae Stacey'n artist fedrus tu hwnt. Mae hi'n hyderus a phenderfynol ei natur. Mae yna rai agweddau o'r gwaith ryda' ni'n gwbwl gytûn arnyn nhw ac eraill nad yda' ni'n gweld lygad-yn-lygad â'n gilydd arnyn nhw. Ond mae hynny'n beth iach.

Stacey: Mae gen i gymaint o edmygedd at ddisgyblaeth, ymroddiad ac aberth Gwyn er mwyn fod ar dop ei gêm. Dwi hefyd yn edmygu'r gonestrwydd, y cryfder cymeriad a'r urddas sydd ganddo, yn wyneb unrhyw heriau.

Fasech chi'n argymell cyd-fyw a chydweithio?

Gwyn: Byddwn, yn sicr. Mae'r bendithion rif y gwlith, ond mae angen bod yn amyneddgar a bod yn feddwl-agored, yn ogystal â bod yn fodlon dal eich tir mewn brwydr ac arddel eich barn. Oes, mae 'na "gicio a brathu" ond mae 'na lond byd o "ffynnu" yn ogystal, ac mae hynny'n cyfrannu at gryfhau'r ddau ohono ni.

Stacey: Byddwn, ond dydy o ddim i'r gwangalon! Ond os allwch chi ddod o hyd i dir cyffredin sydd o fudd i'r ddau ohonoch, gallwch gael gwell dealltwriaeth o'ch gilydd ac, o ganlyniad, perthynas gryfach.

Gavin a Christopher

Ffynhonnell y llun, Gavin Harris
Disgrifiad o’r llun,

Gavin Harris a Christopher Frost

Mae Gavin Harris a Christopher Frost wedi bod gyda'i gilydd ers mis Ionawr 2000. Ers mis Mawrth 2002, maen nhw'n rheoli gwestai bwtîg yn Rhuthun a Llangollen.

Dydy gweithio ym myd lletygarwch ddim yn dod heb ei heriau, yn enwedig os ydych chi'ch dau yn fos, a'r ddau ohonoch chi'n cysgu'n hwyr...

Christopher: Ar ôl gwyliau a ffleit hir, 'nathon ni or-gysgu o 12 awr oherwydd jetlag. Cawson ni ein deffro gan westeion oedd eisiau checio mewn a doedden ni ddim yn barod i agor...

Gavin: Mae o'r math yna o fusnes. Dwi'n cofio gorfod delio efo canhwyllau, golau argyfwng a bod yn brin o fwyd brecwast ayyb pan aeth goleuadau'r stryd i ffwrdd am 12 awr, pan oedden ni'n llawn. Hunlle'!

Beth ydi'r peth gorau am gydweithio?

Christopher: Treulio amser gyda'n gilydd, ac ei bod hi'n bosib i werthfawrogi a mwynhau amser gwaith, gan dy fod di gyda dy bartner.

Gavin: Mae'r ddau ohonoch chi wedi ymrwymo i wneud rhywbeth rydych chi'ch dau eisiau ei wneud ac wedi ei adeiladu, wrth gael amser da gyda'ch gilydd o fewn a thu allan i'r gwaith.

A'r peth gwaethaf?

Christopher: Pan ydych chi'n anghytuno am agwedd o'r busnes ac mae'n cael effaith ar eich bywyd personol.

Gavin: Os ydych chi'n cael ffrae bersonol, ond yn gorfod cario 'mlaen i weithio a rhoi gwên ar y cwbl mae'n gallu bod yn anodd - ond yn ffodus, mae hyn yn reit brin!

Ydych chi wedi dysgu rhywbeth newydd am eich partner drwy weithio gyda nhw?

Christopher: Mae'n gallu rhoi ei holl ganolbwyntiad a'i egni i rai pethau, ond yn gallu methu rhai pethau ychydig llai.

Gavin: Dydi o ddim yn cymryd nonsens gan bobl.

Fasech chi'n argymell cyd-fyw a chydweithio?

Christopher: Mae hi'n sicr yn dibynnu ar y cwpl a'r math o waith 'dych chi'n ei wneud.

Gavin: Byddwn, cyhyd â'ch bod chi'n dod ymlaen.

Catrin a Trystan

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Catrin a Trystan Rowlands

Cyd-sefydlodd Catrin a Trystan Rowlands gwmni cynhyrchu fideo Captain Jac bum mlynedd yn ôl. Maen nhw wedi bod gyda'i gilydd ers 16 o flynyddoedd ac yn briod am naw mlynedd.

Maen nhw wedi cydweithio ers 2000 - ond dydi pethau ddim bob amser wedi bod yn fêl i gyd yn y gweithle...

Catrin: Y tro cynta' wnes i weithio gyda Trystan, wnes i adel y 'stafell olygu mewn dagrau. Nid bod e'n berson creulon, ond ro'n i newydd ddechre cyfarwyddo ac fe wnaeth ddangos i fi fy holl gamgymeriadau. Ro'n ni newydd ddechre caru hefyd, ac fe wnes i anwybyddu fe am weddill y noson yn fy nhymer!

Beth ydi'r peth gorau am gydweithio?

Trystan: Mae'r ddau ohonon ni wedi gweithio yn y diwydiant yn ddigon hir i ddeall bod angen bod bant o gartre weithiau ac yn aml bod angen gweithio oriau hir. Dydy hyn ddim yn broblem i ni ac ry'n ni'n ceisio gwneud pethau'n haws i'n gilydd os yw un yn gorfod gweithio i ffwrdd.

Catrin: Prif reswm sefydlu'r cwmni oedd ein bod ni'n gallu rhannu'r baich o weithio a magu plant - ni sy'n dewis pryd ni'n gweithio a pryd ry'n ni'n cymryd amser i ffwrdd i dreulio amser fel teulu. Ni hefyd yn chwerthin lot!

A'r peth gwaethaf?

Trystan: Dydy Catrin ddim yn dda iawn yn 'switso bant' o'r gwaith a dwi'n gorfod dweud iddi beidio â siarad am y gwaith adre! Ma' gwin yn helpu!

Catrin: Dwi'n ofnadwy am beidio 'switso bant' o'r gwaith ond mae'n haws nawr bod swyddfa gyda ni yn Yr Egin a'n bod ni ddim yn gweithio o'r gegin. Dydy Trystan ddim yn dda iawn yn cadw receipts yn drefnus chwaith a dwi'n gorfod chasio fe'n aml i gadw trefn!

Ydych chi wedi dysgu rhywbeth newydd am eich partner drwy weithio gyda nhw?

Catrin: Ni'n gwybod beth yw cryfderau'n gilydd erbyn hyn. Mae gan y ddau ohonon ni barch mawr at ein gwaith ac ry'n ni'n ymddiried yn ein gilydd i wneud y jobyn gore gallwn ni.

Trystan: Bod Catrin yn rhegi lot!

Fasech chi'n argymell cyd-fyw a chydweithio?

Dydy e ddim wastad yn hawdd - ond ry'n ni'n deall ein gilydd erbyn hyn ac o leia' gallwn ni fynd allan i gael cinio gyda'n gilydd heb y plant!

Hefyd o ddiddordeb: