Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-1 Harrogate Town

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae buddugoliaeth Wrecsam o 2-1 yn erbyn Harrogate Town yn golygu eu bod nhw'n gorffen yn bedwerydd yn y Gynghrair Genedlaethol.

Roedd y Dreigiau eisoes wedi sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle, ond mae canlyniadau dydd Sadwrn yn golygu y bydda nhw'n herio Eastleigh yn rownd y chwarteri.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi gôl gynnar gan yr ymosodwr Mark Beck.

Daeth y Dreigiau yn gyfartal ar ôl 42 munud diolch i gôl gyntaf Jason Oswell i'r clwb.

Rhoddodd dacl flêr gan Kemy Agustien y cyfle i Harrogate fynd 'nôl ar y blaen o'r smotyn, ond llwyddodd Christian Dibble i arbed yn dda.

Gyda 10 munud yn weddill fe aeth Wrecsam ar y blaen diolch i ergyd Nicky Deverdics.

Bydd Wrecsam yn herio Eastleigh yn y Cae Ras ar nos Iau, 2 Mai.