Cwest yn nodi bod cyn-athrawes o Abertawe wedi boddi
- Cyhoeddwyd

Clywodd y cwest bod Ms Ellis yn "unigolyn talentog" a bod disgyblion "wrth eu boddau gyda hi"
Mae cwest wedi dod i'r casgliad bod cyn-athrawes o Abertawe wedi marw ar ôl boddi ym Mae Caswell.
Er bod Siwan Ellis, 53, wedi ceisio lladd ei hun yn y gorffennol, dywedodd y crwner nad oedd tystiolaeth ddigonol bod ei marwolaeth ym mis Medi y llynedd yn fwriadol.
Roedd y gyn-athrawes wedi bod yn dioddef o iselder ac wedi cymryd gorddos ym mis Awst.
Dim ond newydd ddychwelyd i'r gwaith oedd Ms Ellis pan gafodd ei gweld yn prynu gwin cyn disgwyl am fws oedd yn teithio i gyfeiriad y Mwmblws dridiau cyn i'w chorff gael ei ddarganfod.
Dechreuodd ei phartner, Rhian Staples, bryderu gan nad oedd Ms Ellis wedi dychwelyd adref.
Clywodd y cwest bod Ms Ellis yn "unigolyn talentog" oedd wedi bod yn actores broffesiynol cyn dechrau ar ei gyrfa fel athrawes Saesneg.
Bu'n gweithio yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac Ysgol Bishop Gore, a chlywodd y cwest bod y disgyblion "wrth eu boddau gyda hi".
Roedd Ms Ellis wedi ceisio lladd ei hun tair gwaith cyn Awst 2018.
Aneglur
Dywedodd y crwner, Colin Phillips, na fydd hi byth yn glir be yn union ddigwyddodd yn y cyfnod rhwng i Ms Ellis fynd ar goll, a'r foment y cafodd hi ei darganfod.
Ychwanegodd nad oes unrhyw dystiolaeth ei bod hi wedi ceisio lladd ei hun, neu fod unrhyw un arall wedi chwarae rhan yn y farwolaeth.
Dyfarniad y crwner oedd bod Ms Ellis wedi marw ar ôl boddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2018