'Llun o gorff Emiliano Sala' wedi ei rannu ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i honiadau bod llun o gorff cyn-ymosodwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Emiliano Sala wedi cael ei rannu ar-lein.
Cafodd corff yr Archentwr 28 oed ei ddarganfod wrth archwilio gweddillion yr awyren Piper Malibu ar 4 Chwefror.
Roedd Sala a'r peilot David Ibbotson yn hedfan dros Fôr Udd ar 21 Ionawr pan ddiflannodd eu hawyren ger ynys Guernsey.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dorset: "Rydyn ni'n ymwybodol bod llun honedig o gorff Mr Sala yn cael ei rannu ar y we, ac yn credu ei bod hi'n ffiaidd bod rhywun wedi gwneud y fath beth."
"Mae'n gyfnod anodd iawn i deulu Mr Sala ac na ddylen nhw orfod diodde' unrhyw boen ychwanegol o ganlyniad i'r weithred ofnadwy yma," meddai.
"Rydyn ni'n ymchwilio'r digwyddiad ac yn cydweithio'n agos gyda nifer o asiantaethau er mwyn darganfod y sawl sy'n gyfrifol."
Dywedodd llefarydd ar ran CPD Caerdydd bod "ymddygiad y sawl sy'n gyfrifol am dynnu a rhannu'r llun yn gwbl ofnadwy".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2019