Bwrdd iechyd i ad-dalu £1m am fethiant rhestrau aros
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gorfod ad-dalu tua £1m i Lywodraeth Cymru am fethu â lleihau rhestrau aros.
Daw'r cam wedi i bron i 6,000 o gleifion orfod aros dros wyth mis am driniaeth ysbyty yng ngogledd Cymru.
Roedd disgwyl i'r bwrdd, sydd mewn mesurau arbennig ers 2015, ddod â nifer y cleifion oedd yn aros am driniaeth i 5,700 yn 2018/19, ond roedd 5,916 ar y rhestr aros ar ddiwedd y cyfnod dan sylw.
Gan gynnwys yr ad-daliad, fe wnaeth y bwrdd orwario £41.3m yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf hyd at fis Mawrth.
Mae hynny er i Lywodraeth Cymru roi bron i £20m yn ychwanegol gyda'r nod o wella perfformiad, ac o ganlyniad mae gweinidogion wedi gweithredu'r broses o ad-ennill cyfran o'r arian.
Daeth y cam i'r amlwg o fewn dogfennau fydd yn cael eu trafod yng nghyfarfod y bwrdd ddydd Iau.
Dywedodd y cyfarwyddwr cyllid, Russell Favager bod y bwrdd wedi derbyn cyfanswm o £19.5m "ar gyfer gweithgaredd ychwanegol i leihau'r rhestrau aros hir".
"Fodd bynnag yn ystod Ebrill, roedd yna adfachiad o £1m o'r cyllid yma gan Lywodraeth Cymru gan nad oedd amseroedd aros yn bodloni'r gofynion."
Mae Mr Favager hefyd yn rhybuddio bod nifer o heriau i'w hwynebu yn y 12 mis nesaf, gan gynnwys lefelau cost staff asianaetaeth sydd wedi cyrraedd "degau o filiynau o bunnau".
£31.6m oedd y gost yn ystod 2018/19, meddai, a mis Mawrth oedd y mis drytaf.
Yn eu cyfarfod yn Llandudno ddydd Iau, bydd y bwrdd hefyd yn clywed beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf o ran anghydfod gydag ymddiriedolaeth iechyd yn Lloegr dros gost gofalu am gleifion o Gymru.
Mae Ysbyty Iarlles Caer wedi stopio derbyn cleifion o Gymru, oni bai am achosion brys a mamolaeth - newid polisi sy'n effeithio ar bobl o Sir Y Fflint yn bennaf.
Dywed Mr Ravager bod newidiadau posib i'r telerau, sy'n destun trafodaethau rhwng swyddogion iechyd a llywodraethau Cymru a'r DU, yn ffactor risg pellach i'r bwrdd wrth gynllunio ar gyfer 2019/20.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2019