Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Jason Shaun FarrellFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jason Shaun Farrell yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Abertawe fore Llun

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes 22 oed yn Abertawe yr wythnos ddiwethaf.

Cafwyd hyd i gorff Sammy-Lee Lodwig yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol yn ardal Carlton Terrace ar 23 Ebrill.

Fe wnaeth Jason Shaun Farrell, 49 o Abertawe, ymddangos ger bron Llys Ynadon Abertawe fore Llun.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron y ddinas ddydd Mawrth.

Mae Mr Farrell hefyd wedi'i gyhuddo o glwyfo dyn arall gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol ar 20 Ebrill.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Sammy-Lee Lodwig dal i dderbyn cefnogaeth gan yr heddlu