Etholiad Ewrop: Plaid 'heb allu" ffurfio cynghrair

  • Cyhoeddwyd
Logo Plaid CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Plaid Cymru eu bod wedi dymuno cydweithio gyda'r Blaid Werdd wrth ymgeisio am seddi yn Senedd Ewrop

Mae Plaid Cymru wedi beio'r Blaid Werdd dros y ffaith nad yw'r ddwy blaid yn cydweithio wrth ymgyrchu yn etholiadau Ewrop.

Dywedodd un o ymgeiswyr Plaid Cymru, Patrick McGuinness eu bod wedi siarad gyda'r Blaid Werdd ynghylch y posibilrwydd o ffurfio "cynghrair dros aros" yn yr UE a bod y Gwyrddion "yn teimlo na allen nhw symud ymlaen" i wneud hynny.

Mae wyth plaid wedi enwebu ymgeiswyr yng Nghymru ar gyfer yr etholiadau, ac mae o leiaf pedair yn galw am bleidlais bellach ynghylch perthynas y DU gyda'r UE.

Mae'r BBC wedi gofyn i'r Blaid Werdd am ymateb.

Ddydd Gwener fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable ei fod yn gresynu nad oedd y blaid wrth-Brexit newydd, Change UK wedi cytuno i redeg ymgyrch ar y cyd â nhw.

Yn gynharach yn y mis, fe ddywedodd y Blaid Werdd nad oedd unrhyw blaid arall wedi cysylltu gydag awgrym i gyhoeddi rhestr ar y cyd ar gyfer yr etholiadau gyda'r nod o ymgyrchu yn erbyn Brexit.

'Siomedig'

Mr McGuinness yw ymgeisydd rhif tri ar restr ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau.

Mewn erthygl y bydd y blaid yn ei chyhoeddi ddydd Sul, mae'n dweud: "Fel llawer, roedden ni wedi gobeithio am gynghrair Aros trawsbleidiol ffurfiol.

"Yn wir, roedden ni wedi bod mewn trafodaethau gyda'r Blaid Werdd i'r perwyl hwnnw, ac roedden ni'n siomedig eu bod yn teimlo na allen nhw symud y syniad yna ymlaen gyda ni."

Dywedodd y byddai cytundeb o'r fath â'r potensial i fod "yn ffordd effeithiol o gryfhau'r bleidlais Aros".

Ychwanegodd Mr McGuinness y bydd cefnogwyr Plaid Cymru yn Lloegr yn cael eu hannog i bleidleisio dros y Blaid Werdd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bleidlais yn cael ei threfnu ar gyfer dydd Iau, 23 Mai gyda'r cyfrif yn dechrau ar y nos Sul canlynol

Does dim lle i gredu bod trafodaethau tebyg wedi bod rhwng Plaid Cymru a'r ddwy blaid arall sydd o blaid aros yn yr UE - y Democratiaid Rhyddfrydol a Change UK.

O'r wyth plaid ar y papur pleidleisio, mae pedair - Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd a Change UK - yn galw am refferendwm pellach ynghylch perthynas y DU gyda'r UE.

Cynyddu mae'r pwysau ar arweinyddiaeth y Blaid Lafur i gefnogi refferendwm arall, ac mae disgwyl iddyn nhw benderfynu ar y mater ddydd Mawrth.

'Doedd dim cynigion'

Mewn datganiad yn gynharach ym mis Ebrill, dywedodd y Blaid Werdd: "Yn nhermau rhestrau ar y cyd, roedd y dyddiad cau ar gyfer trefniadau ffurfiol wedi mynd heibio cyn cyfarfod Cyngor yr UE ar 10 Ebrill, wnaeth ganiatáu'r cyfnod ychwanegol sy'n gwneud hi'n bosib ymgyrchu yn yr etholiadau Ewropeaidd.

"Cyn belled ag y mae trefniadau anffurfiol yn y cwestiwn, dydy'r un blaid wedi cysylltu â ni yn eu cylch, ac mae honiadau ein bod wedi gwrthod cynigion yn anghywir, gan na chafodd dim eu gwneud."

Mae Plaid Cymru - fel Llafur a'r Ceidwadwyr - yn amddiffyn un sedd yn yr etholiad. Mae'r ASE Nathan Gill wedi gadael UKIP i ymgyrchu dros Blaid Brexit.

Mae wyth plaid yn ymgiprys dros bedair sedd yn Senedd Ewrop - Llafur Cymru, Y Blaid Geidwadol, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP, Change UK a Phlaid Brexit.