Ymgeiswyr Llafur yng Nghymru'n galw am refferendwm arall
- Cyhoeddwyd
Mae'r pedwar ymgeisydd Llafur yng Nghymru ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd wedi galw ar y blaid i roi addewid clir yn ei maniffesto yn galw am refferendwm arall.
Mewn llythyr dywedodd y pedwar bod y blaid "mewn perygl o golli cefnogaeth yn sylweddol" pe na bai'n cefnogi'r alwad am bleidlais arall.
Mae wedi cael ei anfon i'r Prif Weinidog Mark Drakeford a Mick Antoniw, sy'n cynrychioli Llafur Cymru ar Bwyllgor Gwaith y Blaid Lafur yn ganolog - yr NEC.
Mae'r llythyr hefyd wedi ei arwyddo gan aelodau seneddol Llafur, aelodau Cynulliad y blaid ac arweinwyr cynghorau sir.
'Pwyso a mesur'
Fe fydd yr NEC yn cwrdd ddydd Mawrth i benderfynu cynnwys y maniffesto ar gyfer yr ymgyrch etholiadol.
Mae Mr Drakeford wedi dweud wrth y BBC y dylai refferendwm, er mwyn cadarnhau neu wrthod unrhyw benderfyniadau ar Brexit, barhau yn rhan o'r drafodaeth wrth lunio'r maniffesto.
Pan ofynnwyd i Mr Drakeford a oedd ganddo unrhyw gyngor i Mr Antoniw cyn cyfarfod yr NEC ddydd Mawrth, dywedodd ei fod yn disgwyl i AC Pontypridd "ddefnyddio ei allu i bwyso a mesur".
Mae 38 o Lafurwyr - yn cynnwys gwleidyddion, aelodau a swyddogion undebau - wedi arwyddo'r llythyr yn galw ar Mr Drakeford a Mr Antoniw i ddweud yn blaen eu bod yn cefnogi "maniffesto sy'n cynnwys pleidlais ar unrhyw gytundeb mae'r Senedd yn ei gymeradwyo, gydag opsiwn hefyd o barhau yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2019