Galw am fwy o brofion ar y galon wedi marwolaeth marathon
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 25 oed a fu farw funudau ar ôl rhedeg hanner marathon Caerdydd y llynedd yn helpu elusen i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd cael profion ar y galon a gosod mwy o ddifibrilwyr.
Fe gofnododd cwest ym mis Chwefror bod Ben McDonald wedi marw o achosion naturiol, wedi iddo gael ataliad ar y galon ar ddiwedd y ras.
Ers y farwolaeth ym mis Hydref, mae perthnasau Ben wedi cael eu sgrinio ar gyfer clefydau'r galon.
Maen nhw'n hefyd yn trefnu digwyddiad yn ei enw i godi arian dros yr elusen Calonnau Cymru, sy'n helpu trefnu i osod diffibrilwyr ar draws Cymru a hyfforddiant ar sut i'w defnyddio.
Yn ôl y teulu, daeth y crwner i'r casgliad fod Ben wedi marw o'r cyflwr SAD (sudden arrhythmic syndrome).
Dywedodd ei fam, Ruth McDonald o Fro Morgannwg ei fod wedi marw "fwy neu lai yn syth" er yr ymdrechion i'w adfer yn y fan a'r lle ac yn yr ysbyty.
"Roedd yn wirioneddol iach a heini, "meddai.
"Doedd dim arwydd bod hynny'n mynd i ddigwydd.
"Fe gurodd yr amser roedd wedi gosod i'w hun, fe gurodd un o'i frodyr ac yna fe gwympodd wrth groesi'r llinell derfyn.
"Fe allai sgrinio fod wedi achub Ben, efallai ddim - ond rydym yn wirioneddol gefnogol i'r ffaith ein bod angen diffibrilwyr.
"Doedden ni ddim yn meddwl y bydde hyn yn digwydd i ni... roedd Ben yn mynd i fod yn iawn a fysan ni'n ei gweld yn priodi a chael plant a heneiddio..."
'Pawb yn dioddef'
Dywedodd brawd Ben, Andrew: "Gallech chi ddim byw eich bywyd wastad yn ofnus ond mae yna bethau allech chi wneud... os gallwch chi gael prawf ar y galon, ewch am brawf ar y galon.
"Os yw [prawf ar y galon] yn arbed bywyd un person, mae hynny'n beth da oherwydd nid dim ond y person sy'n marw sy'n dioddef, mae pawb yn dioddef."
Roedd Ben a'i gariad ymhlith grŵp o saith o berthnasau a chyfeillion fu'n paratoi am fisoedd ar gyfer cystadlu yn yr hanner marathon.
Bu farw ail ddyn - Dean Fletcher, 32 oed ac o Gaerwysg - dan amgylchiadau tebyg o fewn munudau i Ben ar ôl gorffen y ras ar 7 Hydref.
Roedd Ben yn rhedeg yr hanner marathon er mwyn cefnogi elusen yn Tanzania, Maternity Africa ac wedi ei farwolaeth fe godwyd bron i £13,000 - ymhell dros ei darged wreiddiol.
Nawr mae'r teulu'n cefnogi Calonnau Cymru trwy drefnu digwyddiad o'r enw BenJam sy'n "ffordd o nodi ei ben-blwydd" gan "wneud pethau roedd e'n eu mwynhau".
Yn ôl chwaer Ben, Vicki Edwards, mae dros 200 o bobl wedi prynu tocynnau ac mae'r teulu'n gobeithio y bydd y digwyddiad yn un flynyddol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi £586,000 ar gyfer prosiect Save a Life Cymru, dolen allanol, sy'n anelu at wella hyfforddiant achub bywyd a chynyddu'r defnydd o ddiffibrilwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018